Wythnos Gweithredu Dros Ddementia 16-22 Mai
Dan arweiniad Cymdeithas Alzheimer’s, bydd y cyhoedd yn dod at ei gilydd yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Ddementia i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.
Dyma enghraifft gyfatebol i’ch helpu i ddeall sut mae cof tymor byr (diweddar) a thymor hir yn cael eu heffeithio gan ddementia a sut mae’n effeithio ein hemosiynau.
Llyfrgell bwrpasol i chi
Dychmygwch unigolyn sy’n 70 mlwydd oed. Maent yn sefyll wrth ymyl cwpwrdd llyfrau sydd yr un taldra â nhw. Mae’n gwpwrdd llyfrau arbennig iawn oherwydd ei fod yn dal yr holl ffeithiau am fywyd yr unigolyn hwnnw y maent wedi’u casglu dros y blynyddoedd.
Mae pob ffaith neu atgof wedi’u cynrychioli gan lyfr ac maent i gyd yn ffurfio rhannau o fywyd yr unigolyn hwnnw, megis y sgiliau maent wedi’u dysgu.
Mae’r silff uchaf yn y cwpwrdd yn dal y llyfrau/ atgofion diweddaraf megis beth gawsoch i frecwast. Mae’r silff ger ysgwyddau’r unigolyn efallai yn dal atgofion o ymddeol yn ôl yn eu chwedegau.
Wrth symud i lawr, efallai i’r silff ger pengliniau’r unigolyn ddal atgofion o’u hugeiniau. Gall hyn gynnwys atgofion o yrfaoedd cynnar neu gwrdd â’u partner. Bydd y silff isaf yn cynnwys atgofion cynnar o’u plentyndod megis dechrau yn yr ysgol.
Effaith dementia ar y cwpwrdd llyfrau
Rŵan, dychmygwch fod dementia wedi cyrraedd y cwpwrdd llyfrau ac wedi dechrau ei siglo o ochr i ochr. Fel pob cwpwrdd llyfrau arall sy’n cael ei siglo, mae’r llyfrau yng nghwpwrdd llyfrau’r unigolyn yn cael eu cymysgu, maent yn disgyn neu’n cael eu difrodi. I rywun sy’n byw gyda dementia, bydd eu llyfrau’n disgyn o’r silffoedd uchaf lle mae’r atgofion mwyaf diweddar yn cael eu cadw.
Wrth i ddementia barhau i siglo cwpwrdd llyfrau’r unigolyn dros amser, bydd eu silffoedd uchaf yn gwagio. Bydd yr hyn mae’r unigolyn yn ei ystyried yn atgof diweddar, o gyfnod pellach yn ôl yn eu bywyd mewn gwirionedd.
Mae hyn yn golygu y gallai’r unigolyn gofio pethau o’u plentyndod yn glir, oherwydd bod y llyfrau hynny yn ddiogel ar y silff isaf. Ni fydd mor hawdd i gofio’r atgofion mwyaf diweddar, megis beth gawsant i frecwast oherwydd bod y llyfr hwn wedi disgyn o’r silff uchaf.
Yr ochr arall i’r stori
Mae’r ymennydd yn cynnwys mwy nag un cwpwrdd llyfrau. Mae yna ail gwpwrdd llyfrau, sy’n cadw’r holl deimladau ac emosiynau y gall unigolyn eu profi. Mae’r cwpwrdd llyfrau yma yn gryfach a thrymach o dipyn. Mae hyn yn golygu bod dementia yn cael mwy o drafferth wrth geisio siglo’r cwpwrdd llyfrau yma, felly mae’r llyfrau sy’n cynnwys holl deimladau ac emosiynau’r unigolyn yn fwy diogel.
Mae gan bob llyfr yn y cwpwrdd llyfrau ffeithiol (y cwpwrdd llyfrau gyda’r atgofion, sgiliau a ffeithiau) lyfr cyfatebol yn y cwpwrdd llyfrau emosiynau. Er enghraifft, efallai i unigolyn fod â llyfr ar un o’u hathrawon, sy’n cynnwys manylion am olwg yr athro / athrawes a pha mor hir oeddent yn dysgu’r unigolyn.
Yn y cwpwrdd llyfrau emosiynau, mae llyfr cyfatebol yn cynnwys y teimladau am yr athro / athrawes, megis nhw oedd hoff athro / athrawes yr unigolyn, fe wnaethant ysbrydoli’r unigolyn neu roeddent yn ddoniol.
Felly mae’r unigolyn 70 mlwydd oed yn sefyll wrth eu cypyrddau. Dychmygwch fod ŵyr neu wyres yr unigolyn wedi dod i’w gweld a’u bod yn treulio diwrnod braf gyda’i gilydd. Maent yn cerdded ger y traeth ac yn mwynhau hufen iâ.
Mae’r diwrnod hwn yn gwneud i’r unigolyn sy’n byw gyda dementia deimlo cariad eraill tuag atynt, sy’n creu llyfr newydd yn y cwpwrdd llyfrau emosiynau.
Ar ddiwedd y diwrnod, mae dementia wedi siglo’r cwpwrdd llyfrau bregus llawn ffeithiau, sydd wedi achosi i’r llyfr gyda’r atgof o’r diwrnod braf ddisgyn oddi ar y silff. Er bod yr atgof o’r diwrnod gyda’u ŵyr / wyres wedi mynd, mae’r teimlad hapus a’r teimlad o gariad yn dal yno a bydd yn parhau i fod yno pan fydd yr unigolyn yn gweld eu ŵyr / wyres eto.
Rhywbeth i’w ystyried
Pan rydych yn treulio amser gyda rhywun sy’n byw gyda dementia, efallai na fyddant yn cofio’r holl bethau rydych wedi’u gwneud gyda’ch gilydd neu ble rydych wedi bod. Nid arnyn nhw mae’r bai bod y llyfrau wedi disgyn oddi ar y silffoedd, dyma sut mae’r cyflwr yn effeithio eu cof.
Yr oll fydd yr unigolyn yn ei wybod yw eu bod yn teimlo’n hapus oherwydd yr amser maent wedi’i dreulio gyda chi. Mae’n hollbwysig bod pobl yn parhau i dreulio amser gyda’r unigolion hynny sy’n byw gyda dementia er mwyn eu helpu i fyw’n dda.
Mae hefyd yn bwysig cofio peidio â gwylltio neu ddigalonni os yw rhywun â dementia yn anghofio pethau. Mae sut mae’r unigolyn yn teimlo yn fwy pwysig na chael y ffeithiau’n gywir.