Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut mae’r cyngor yn gweithio: trafodaethau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sut mae’r cyngor yn gweithio: trafodaethau
Y cyngor

Sut mae’r cyngor yn gweithio: trafodaethau

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 6, 2018 12:17 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham council news, Wrexham council debates, North Wales local councillors
RHANNU

Mae llawer o benderfyniadau’n cael eu gwneud yn y cyngor.

Cynnwys
  • Sut allaf ganfod beth yw pynciau trafodaethau’r dyfodol?
  • Pwy sy’n cymryd rhan yn y trafodaethau?
  • Sut allaf wylio trafodaethau?
  • Ble allaf ddod o hyd i’r cofnodion?

Nid yw’r dewisiadau sy’n cael eu gwneud bob amser yn rhai syml, a dyna pam yr ydym yn cael trafodaethau.

Efallai’ch bod yn meddwl bod hyn i gyd yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, ond os darllenwch ymlaen cewch weld pa mor hawdd yw cael gwybod beth sy’n digwydd.

Sut allaf ganfod beth yw pynciau trafodaethau’r dyfodol?

Gallwch weld y materion y bydd y cyngor yn eu trafod ac yn penderfynu yn eu cylch trwy edrych ar-lein ar ein Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

Mae’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei chyhoeddi a’i diweddaru bob mis ac mae’n cynnwys gwybodaeth am bob mater sy’n debygol o gael eu trafod dros y pedwar mis nesaf.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Pwy sy’n cymryd rhan yn y trafodaethau?

Y Bwrdd Gweithredol neu’r Cyngor Llawn sy’n penderfynu ar faterion gan amlaf, ond gall y Pwyllgorau Chraffu gymryd rhan hefyd.

Gallwch hefyd ganfod pa aelod arweiniol fydd yn gysylltiedig â phob pwnc trafod, a sut i gysylltu â nhw os hoffech wybod mwy, yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

Ydy’r holl sôn am fyrddau a phwyllgorau yn eich drysu?

Peidiwch â phoeni.

Gallwch ganfod sut mae’r cyngor yn cael ei rannu’n fyrddau a phwyllgorau, trwy ddarllen ein erthygl flaenorol yma.

Sut allaf wylio trafodaethau?

Ar hyn o bryd gallwch wylio holl drafodaethau’r Cyngor Llawn a’r Bwrdd Gweithredol yn fyw ar ein tudalen gweddarlledu ac os ydych yn methu un, gallwch ei wylio eto.

Mae pob gweddarllediad yn cael ei uwchlwytho cyn pen 48 awr ar ôl y digwyddiad ac mae ar gael am 6 mis wedyn.

Ydych chi ond eisiau gwyliau rhai rhannau?

Gallwch symud yn hawdd trwyddo gan ddefnyddio’r pwyntiau mynegai er mwyn neidio i rannau penodol o’r cyfarfod.

Byddwch hefyd yn gallu gwylio holl ddadleuon y Pwyllgor Craffu trwy’r gweddarllediad, gan ddechrau o fis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Wyddoch chi bod cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol ar agor i’r cyhoedd hefyd?

Yn aml gallwch eistedd yn eu cyfarfodydd a gynhelir yn Neuadd y Dref (ar ddydd Mawrth am 10am fel arfer).

Nid yw hynny’n bosibl bob tro pan fydd gwybodaeth sensitif yn cael ei thrafod.

Ble allaf ddod o hyd i’r cofnodion?

Darllenwch am brif bwyntiau pob cyfarfod ar ein gwefan, naill ai trwy wirio’r cyfarfodydd diweddaraf, neu trwy ddefnyddio’r offeryn chwilio.

Trwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio manwl i chwilio am destun, gallwch ddewis y cofnod yn y ddewislen ‘math o ddogfen’.

Hoffech chi gael canlyniadau sydd hyd yn oed yn fanylach? Gallwch ddidoli’r canlyniadau yn ôl pwyllgor, dyddiad a ward hefyd.

Felly dyna chi – os nad oeddech yn gwybod cynt, byddwch yn gwybod rŵan sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau eich cyngor lleol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae’r farchnad Nadolig Fictoraidd yma! Ewch i weld drosoch eich hunain... Mae’r farchnad Nadolig Fictoraidd yma! Ewch i weld drosoch eich hunain…
Erthygl nesaf Digital, Computer, Laptop, Smartphone Pum tuedd digidol sydd angen i chi baratoi ar eu cyfer yn 2019

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English