Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut mae’r cyngor yn gweithio: pwyllgorau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sut mae’r cyngor yn gweithio: pwyllgorau
ArallY cyngor

Sut mae’r cyngor yn gweithio: pwyllgorau

Diweddarwyd diwethaf: 2019/04/11 at 2:59 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Wrexham Council News
RHANNU

Byddwch yn onest. Dydi’r gair ‘pwyllgorau’ ddim yn cyffroi llawer o bobl.

Cynnwys
‘Y Cyngor Llawn’Y Bwrdd GweithredolPwyllgorau CraffuPwyllgor CynllunioPwyllgor Archwilio

Ac mae’r ffaith eich bod wedi clicio ar y pennawd hwn yn dipyn o syndod. Ond ‘da ni’n falch eich bod chi wedi gwneud 🙂

Oherwydd mae pwyllgorau yn chwarae rhan hanfodol yng ngweithrediad llywodraeth leol – drwy wneud penderfyniadau sy’n cael effaith ar wasanaethau a chwsmeriaid fel chi.

Mae’n debyg nad yw hyn yn eich cadw chi’n effro yn y nos, ond ella eich bod chi’n meddwl weithiau ‘be’n union mae’r holl bwyllgorau ‘ma’n ei wneud?”

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Cwestiwn teg. Dyma grynodeb cyflym.

‘Y Cyngor Llawn’

Mae bob pwyllgor yn bwysig, ond y ‘Cyngor’ – sy’n cael ei alw yn ‘Y Cyngor Llawn’ – yw eu tad hwy oll.

Mae’n cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn, yn cynnwys 52 o gynghorwyr, ac yn gwneud penderfyniadau ar y materion pwysicaf.

Er enghraifft, nhw sydd â’r gair olaf ar y gyllideb, yn ogystal â graddfeydd treth y cyngor.

Pan maen nhw’n yn gwneud penderfyniadau fel hyn, gall pwyllgorau eraill wneud argymhellion – ond y Cyngor Llawn sydd â’r gair olaf.

Y Bwrdd Gweithredol

Gellir dadlau mai’r ‘Bwrdd Gweithredol’ sydd â’r dylanwad mwyaf ar beth mae’r cyngor yn ei wneud bob mis.

Mae’n cynnwys 10 o gynghorwyr o’r grŵp gwleidyddol – neu glymblaid – sydd â’r nifer fwyaf o seddi, gan gynnwys yr arweinydd a’r dirprwy arweinydd.

Mae’n cyfarfod bob ychydig wythnosau, ac yn gwneud y rhan fwyaf o’r penderfyniadau allweddol ynghylch blaenoriaethau a gwasanaethau’r cyngor.

Gallwch weld beth fydd testunau eu dadleuon nesaf ar ein gwefan.

Gallwch wylio’r cyfarfodydd yn fyw (neu ddal i fyny’n hwyrach ymlaen).

Pwyllgorau Craffu

Mae’r Pwyllgor Craffu yn hunanesboniadol. Mae’n craffu ar bethau – gan gynnwys penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd Gweithredol, prosiectau, gwasanaethau a materion allweddol.

Mae fel arfer yn cynnwys cynghorwyr o bob grŵp gwleidyddol, ac yn gweithredu fel gwrthbwys i’r Bwrdd Gweithredol.

Mae gennym bump Pwyllgor Craffu. Mae rhai o’r enwau ychydig yn hir (wel.. dyna lywodraeth leol i chi), ond dyma drosolwg o beth maen nhw’n ei wneud:

  • Cwsmeriaid, Perfformiad, Adnoddau a Llywodraethu – sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar ein cwsmeriaid ac yn defnyddio ein hadnoddau yn ddoeth.
  • Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddiad – edrych ar sut yr ydym yn datblygu Wrecsam fel lleoliad lle y gall busnes ffynnu, lle y mae pobl eisiau byw, gweithio ac ymweld.
  • Tai a’r Amgylchedd – sicrhau ein bod yn gwneud ein rhan i ddarparu digon o dai a chartrefi yn Wrecsam, a gofalu am yr amgylchedd.
  • Dysgu Gydol Oes – sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i fod â dyheadau cadarnhaol, addysg dda a chyrraedd eu potensial.
  • Diogelu, Cymunedau a Lles – ymdrin â sut yr ydym yn sicrhau bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn Wrecsam, a sut yr ydym yn cadw plant ac oedolion diamddiffyn yn ddiogel.

Gwelwch beth fydd testunau eu dadleuon nesaf ar wefan y cyngor.

A byddwch hefyd yn gallu gwylio cyfarfodydd Craffu ar-lein yn fuan (fel y Bwrdd Gweithredol).

Pwyllgor Cynllunio

Dal efo ni? Da iawn.

Mae’n debyg eich bod chi’n gwybod beth mae’r Pwyllgor Cynllunio yn ei wneud? Dyna ni .. mae’n gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio a materion cynllunio eraill.

Felly, er enghraifft, pan fydd datblygwr eisiau adeiladu tai newydd, y Pwyllgor Cynllunio sy’n ymdrin â hynny.

Mae’n cynnwys 20 o gynghorwyr ar draws y grwpiau gwleidyddol, sy’n cyfarfod oddeutu bob pythefnos.

Gallwch wylio’r cyfarfodydd ar-lein.

Pwyllgor Archwilio

Yn syml, mae’r Pwyllgor Archwilio yn gwirio os ‘da ni’n gwneud be ‘da ni i fod i’w wneud.

Mae’n ystyried a ydym yn rheoli ein harian a’n cyllid yn briodol. Mae’n gwirio ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’n diogelu rhag bygythiadau megis twyll, ymosodiadau seiber, iechyd a diogelwch ac amhariadau tywydd garw.

Yn gryno, mae’n sicrhau ein bod ni’n gwneud y pethau sydd angen eu gwneud, cadw arian ac adnoddau’r cyhoedd yn ddiogel.

Y peth diddorol ynghylch y Pwyllgor Archwilio ydi nad ydi o’n cael ei gadeirio gan gynghorydd, ond gan aelod o’r cyhoedd.

Eto, gallwch weld beth fydd testunau eu dadleuon nesaf ar ein gwefan.

Felly dyna chi.

Os oes gennych ddiddordeb yn y ffordd mae llywodraeth leol yn gweithio – ac eisiau gwybod sut yn union y caiff penderfyniadau eu gwneud – wel dyma sut mae’n digwydd.

Felly i grynhoi…

  • Y Cyngor Llawn sy’n gwneud penderfyniadau ar y pethau pwysicaf.
  • Mae’r Bwrdd Gweithredol yn gwneud penderfyniadau allweddol…
  • …a’r Pwyllgor Crafu yn craffu ar y penderfyniadau hynny.
  • Mae’r Pwyllgor Cynllunio yn ymdrin â cheisiadau cynllunio.
  • A’r Pwyllgor Archwilio yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn gywir.

Erbyn meddwl, ella mai dyna’r oll oedd angen i ni ei ddweud yn y lle cyntaf 😉

LAWRLWYTHWCH Y GRAFFIG GWYBODAETH

Rhannu
Erthygl flaenorol Apêl y Pabi yn cael ei lansio mewn steil Apêl y Pabi yn cael ei lansio mewn steil
Erthygl nesaf Pobl Ifanc – cael dweud eich dweud ar y ddau fater pwysig hyn Pobl Ifanc – cael dweud eich dweud ar y ddau fater pwysig hyn

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy'n caru pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Strategaeth uchelgeisiol newydd yn elwa cymunedau Wrecsam sy’n caru pêl-droed

Gorffennaf 3, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English