Oes gennych chi blant tair neu bedair oed?
Ydych chi’n gwybod os ydych yn gymwys i’r cynnig gofal plant di-dâl 30 awr?
Ydych chi’n gwybod sut i ymgeisio?
Wel, peidiwch â chynhyrfu, mae’r erthygl hon yn anelu i ateb yr holl gwestiynau hynny i chi!
Mae’r cynnig ar gael i blant Wrecsam o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed nes mis Medi ar ôl iddynt droi’n bedair oed. Dylid nodi efallai y bydd angen talu am bethau fel costau cludiant a phrydau bwyd.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Ydw i’n gymwys?
- Mae’n rhaid i’ch plentyn fod yn 3 neu 4 blwydd oed?
- Mae’n rhaid i chi ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf neu’r cyflog byw am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
- Mae’n rhaid i bob rhiant ennill llai na £100,000 y flwyddyn
- Mae rhieni teuluoedd unig rieni angen bod yn gweithio
- Mae’n rhaid i rieni mewn teuluoedd dau riant fod yn gweithio
- Mae rhieni sy’n hunan-gyflogedig neu ar gontract dim oriau angen profi eu statws a darparu dogfennau perthnasol
- Rhieni sy’n gyflogedig neu’n hunan-gyflogedig ond ar wyliau statudol er enghraifft, absenoldeb mamolaeth
- Mae gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau hefyd yn gallu bod yn gymwys
- Gall teuluoedd lle mae un rhiant yn derbyn rhai budd-daliadau hefyd fod yn gymwys – cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am fwy o fanylion.
Pryd allaf i wneud cais?
Gall teuluoedd ymgeisio 8 wythnos ar y mwyaf cyn y tymor y gallant gael mynediad i’r Cynnig Gofal Plant felly ar gyfer tymor y Gwanwyn byddai o 11 Tachwedd ac ar gyfer tymor yr Haf byddai o 24 Chwefror 2020.
Cyflwynir ceisiadau drwy http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Wrexham-Childcare-Offer.aspx
Mae gofal plant yn cynnwys:
- Meithrinfeydd
- Gwarchodwyr Plant
- Cylchoedd Chwarae
- Crèche
- Gofal plant y tu allan i oriau ysgol
- Mamaethod
Gallwch ddewis eich darparwr gofal plant eich hun sy’n diwallu anghenion eich plentyn.
Mae’r Cynnig Gofal Plant ar gael i blant Wrecsam o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed nes mis Medi ar ôl iddynt droi’n bedair oed.
Faint ydw i’n gallu ei gael?
Gallech gael hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant addysg gynnar. Mae’r 30 awr yn cynnwys lleiafswm o 10 awr o addysg gynnar yr wythnos a mwyafswm o 20 awr yr wythnos o ofal plant.
Sut ydw i’n gwneud cais?
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Wrexham-Childcare-Offer.aspx
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau yn llenwi’r cais ar-lein, gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam helpu. Gallwch alw heibio Galw Wrecsam ar Stryt yr Arglwydd, dydd Llun-dydd Gwener 10:30am-2:30pm a bydd aelod o’r tîm yn hapus i helpu.
Os hoffech gysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am unrhyw beth arall gallwch gysylltu ag aelod o’r tîm drwy ffonio 01978 292094 neu e-bost at fis@wrexham.gov.uk
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION