Mae tenantiaid sydd yn byw mewn cynlluniau tai gwarchod y cyngor wedi cael cymorth ychwanegol i helpu i wella eu sgiliau TG gan rywun sydd yn agos atynt.
Mae John White yn denant tai gwarchod gyda chynllun Erw Gerrig yn Rhos. Roedd yn gallu dod yn Hyrwyddwr TG Digidol ar ôl iddo gael hyfforddiant gan Gyngor Wrecsam, UCATT (Undeb Adeiladu, Crefftau Perthynol a Thechnegwyr) ac yn fwy diweddar Cymunedau Digidol Cymru sydd yn gweithio i helpu pobl gael mynediad a defnyddio’r rhyngrwyd.
Dywedodd John: “Gosododd y cyngor gyswllt Wi-Fi mewn cynlluniau tai gwarchod yn ddiweddar sydd yn golygu y gall yr holl denantiaid fynd ar-lein. Mae hwn yn arf gwych i ni gan ei fod yn ein caniatáu i wneud pob math o bethau megis cadw mewn cysylltiad â pherthnasau, siopa ar-lein ac edrych ar bynciau mae gennym ddiddordeb ynddynt.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“Mae fy swydd ynghylch cael y tenantiaid i lefel lle gallent barhau i ddysgu eu hunain. Rwy’n dechrau drwy wneud tasgau syml megis pwyntio a chlicio’r llygoden, defnyddio’r bysellfwrdd a defnyddio’r porwr rhyngrwyd.
“Dim ond ychydig bach o hyfforddiant maent eu hangen cyn eu bod yn gweld beth sy’n bosibl ei wneud ar-lein ac yna i ffwrdd â nhw!
“Rwy’n cynnal sesiynau rheolaidd bob wythnos yn y cynlluniau tai gwarchod yn Erw Gerrig a Llys y Mynydd yn Rhos a St Michaels yn Rhiwabon. Mae hyn am ddim i denantiaid ymuno ac mae posibl i hyn dal i dyfu pan fydd rhagor o denantiaid yn rhan ohono. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o hyn.”
Tai gwarchod yn cael ei wneud “yn addas ar gyfer y dyfodol”
Mae 22 cynllun tai gwarchod yn cael eu gweithredu gan Gyngor Wrecsam ar draws y Bwrdeistref Sirol. Maent yn darparu llety wedi’i ei ddylunio’n arbennig i ddiwallu anghenion pobl hŷn.
Yn wahanol i gartrefi nyrsio a chartrefi preswyl, mae gan bob tenant fflat, fflat un stafell neu fyngalo hunangynhaliol. Mae ystafelloedd byw cymunedol ar gael ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol ac adfywiol, ac mae Warden a Chanolfan Larwm Cymunedol yn darparu gwyliadwriaeth 24 awr rhag ofn bod argyfyngau.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Rydym wedi bod yn cynnal llawer iawn o waith yn ddiweddar i sicrhau bod ein cynlluniau tai gwarchod yn addas ar gyfer y dyfodol, ac mae’n dda gweld bod tenantiaid yn gwneud y mwyaf o’r cyfle i fynd ar-lein.
“Hoffwn ddiolch i John am y gwaith y mae wedi’i roi fel Hyrwyddwr Digidol, ac am wirfoddoli o’i amser i rannu ei sgiliau gyda’n tenantiaid.”
“Yn ogystal â gosod Wi-fi, mae ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn cael eu cynnig i denantiaid fel rhan o’ prosiect Safon Ansawdd Tai Cymru. Hefyd rydym wedi gosod systemau gwresogi newydd mewn llawer o gynlluniau, ac rydym yn newid y goleuadau yn y mannau cymunedol.
“Byddaf yn annog unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd â ffrind neu berthynas a all fanteisio o’r opsiwn tai i gysylltu ag un o’r swyddfeydd ystâd a gweld y llefydd gwag sydd ar gael.”Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI