Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut y gall amgueddfeydd helpu i lywio dyfodol Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Sut y gall amgueddfeydd helpu i lywio dyfodol Cymru
Pobl a lleY cyngor

Sut y gall amgueddfeydd helpu i lywio dyfodol Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 28, 2018 9:52 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham museum
RHANNU

Ar 6 Rhagfyr, roedd yn bleser gan The Happy Museum lansio adroddiad newydd Amgueddfeydd Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn Amgueddfa Ceredigion. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y sawl ffordd y mae amgueddfeydd yng Nghymru yn ymateb i amcanion y Ddeddf.

Gan ganolbwyntio ar waith chwech amgueddfa yng Nghymru, mae’r adroddiad yn dangos y cyfraniad arwyddocaol y gall amgueddfeydd ei wneud trwy gyfrwng enghreifftiau o arfer presennol neu arfer a welwyd yn ddiweddar – yn ogystal â nodi manylion ymdrechion yr amgueddfeydd i ddatblygu prosiectau sy’n ymateb i’r nodau Llesiant yn benodol.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Datblygwyd yr adroddiad trwy gyfrwng partneriaeth rhwng Amgueddfa Hapus ac Amgueddfeydd Sir Fynwy, Amgueddfa Stori Caerdydd, Amgueddfa Ceredigion, Oriel Môn, Storiel ac Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Cefnogwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru trwy gyfrwng grant cymorth achredu gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru,

Disgrifiwyd y Ddeddf gan un gweinidog fel “y darn o ddeddfwriaeth mwyaf uchelgeisiol y mae Llywodraeth Cymru erioed wedi rhoi cynnig arno.  Bydd yn gofyn am newid sylfaenol i’r ffordd yr ydym yn ceisio mynd i’r afael â’n sialensiau mwyaf fel cenedl.”

Mae prosiect Amgueddfa Hapus yn ysgogi a chynorthwyo gweithgarwch amgueddfeydd sy’n rhoi lles o fewn ffrâm amgylcheddol ac sy’n ystyried y dyfodol, gan ailystyried y rôl y gall amgueddfeydd ei gyflawni wrth greu pobl, lleoedd a phlaned sy’n fwy cydnerth.  Bu’r chwe amgueddfa yn gweithio gydag Amgueddfa Hapus dros gyfnod o chwe mis, er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth o’u rhwymedigaethau dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, adolygu’r ffyrdd yr oeddent eisoes yn ymateb i’r nodau, a chynllunio gweithgareddau newydd ac ymgorffori ffyrdd o weithio y byddent yn tywys eu hymateb i’r lefel nesaf.

Mae’r adroddiad newydd yn dwyn ynghyd yr hyn a ddysgwyd fel adnodd ac ysbrydoliaeth i amgueddfeydd ar draws Cymru – ac er mwyn eu helpu i ddangos eu hymateb wrth iddynt geisio bodloni nodau’r Ddeddf.  DOLEN I’R ADRODDIAD AR-LEIN

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, “Mae amgueddfeydd Cymru eisoes yn gwneud cymaint i gynorthwyo nodau integredig Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, fel y mae’r enghreifftiau yn yr [adroddiad] yn dangos…Os ydym yn mynd i sicrhau bod amgueddfeydd – mannau a ystyrir fel arfer fel mannau lle y cedwir creiriau’r gorffennol – yn berthnasol ar gyfer y dyfodol, rhaid i ni fod yn arloesol o ran y ffyrdd y byddwn yn ymgysylltu ac yn ysbrydoli, gan gydweithio mewn ffordd effeithiol gyda’r sector cyhoeddus;  a chan sicrhau ein bod yn gweithredu heddiw er mwyn cael gwell yfory.”

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ychydig o ysgewyll dros ben y Nadolig hwn? Bydd eich cadi bwyd wrth ei fodd Ychydig o ysgewyll dros ben y Nadolig hwn? Bydd eich cadi bwyd wrth ei fodd
Erthygl nesaf Christmas Bin Collection 2019 Wrexham Pryd y bydd angen rhoi eich biniau allan?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English