Mae’n bwnc sydd wedi cael digon o drafodaeth yn ddiweddar.
I ba raddau y gall Wrecsam sefydlu ei hun yn wirioneddol fel tref farchnad fodern ac os felly sut y gellir cyflawni hyn?
Dyma’r pwnc i’w drafod mewn digwyddiad arbennig yn ddiweddarach y mis hwn
Rhannu eich syniadau
Bydd y digwyddiad yn gyfle i barhau â’r drafodaeth ac i rannu’r syniad yn bersonol ar sail trafodaeth ar dudalen facebook ‘Wrexham Town Matters’.
Bydd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam yn bresennol a bydd yn agor y drafodaeth.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o raglen gyhoeddus yr arddangosfa gyfredol yn Tŷ Pawb ‘Dim Ond Heddiw Gallwn Weld’, sy’n edrych ar hanes Wrecsam fel tref farchnad ac yn cofleidio lle’r adeilad yn ei dreftadaeth farchnad fel cam tuag at y dyfodol.
Bydd yr arlunydd lleol Don Braisby yn recordio’r cyfarfod mewn geiriau a lluniau, er mwyn creu cynrychiolaeth weledol o obeithion a syniadau ein cymuned ar gyfer Wrecsam fel tref farchnad fodern. Yn dilyn y digwyddiad, bydd dogfennaeth Don yn cael ei harddangos yn Tŷ Pawb er mwyn annog trafodaeth bellach.
Ymunwch â ni yn Oriel Dau Tŷ Pawb ar ddydd Llun 28 Ionawr am 6pm – Mae croeso cynnes i bawb Bydd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam yn bresennol a bydd yn agor y drafodaeth.
Cysylltwch a Tŷ Pawb am fwy o wybodaeth:
01978 292144
typawb@wrexham.gov.uk