Mae gwrando arnoch chi’n rhywbeth y mae Cyngor Wrecsam wedi ymrwymo i’w wneud, ac mae arnom ni eisiau diweddaru ein Strategaeth Gyfranogi i ddarparu amrywiaeth o ffyrdd i bobl ddweud eu dweud.
Mae arnom ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwybod y gallwch chi ymuno â thrafodaethau am wasanaethau rydym ni’n eu dylunio a’u darparu. Mae bod yn rhan o’r trafodaethau hyn yn golygu eich bod chi’n gallu helpu i siapio dyfodol Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Yn ystod yr haf fe ofynnom ni i chi beth oedd eich barn chi am ein Strategaeth Gyfranogi. Mae ein Strategaeth Gyfranogi yn nodi sut ydym ni’n gweithio i wneud yn siŵr eich bod chi’n gallu cymryd rhan, a gwneud i bethau ddigwydd gyda’n gilydd. Rŵan ei fod wedi’i orffen, fe allwch chi ddarllen y Strategaeth Gyfranogi newydd ar ein gwefan.
Yn ystod yr ymgynghoriad ynghylch y strategaeth, mynegodd sefydliadau partner fel Senedd yr Ifanc, AVOW a chynghorau tref a chymuned Wrecsam, yn ogystal â phreswylwyr Wrecsam, eu barn ac rydym ni wedi gallu defnyddio eu hadborth i wneud yn siŵr bod ein Strategaeth Gyfranogi newydd yn adlewyrchu eu safbwyntiau. Gobeithiwn trwy wneud hyn y bydd dyfodol gwasanaethau yn Wrecsam yn canolbwyntio ar beth sydd bwysicaf i chi fel trigolion ac y bydd pobl yn gwybod y gallant ddweud eu dweud a gweithio gyda ni i wneud i bethau ddigwydd.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI