Mae’r gyfraith Diogelu Data yn newid ar Mai 25 2018.
I’ch helpu chi ddeall beth mae hynny’n ei olygu darllenwch y darn isod – a cadwch olwg am ddiweddariadau wrth i fwy o wybodaeth ddod allan.
Beth yw diogelu data?
Mae’r Ddeddf Diogelu Data 1998 bresennol yn rheoleiddio’r ffordd yr ydym yn delio a phrosesu eich data personol sy’n ein meddiant.
Bydd yn cael ei ddisodli gan gyfraith diogelu data newydd ar 25 Mai 2018 a fydd yn cyflwyno rheolau newydd ar sut i gasglu a phrosesu data personol.
Data Personol yw gwybodaeth sy’n berthnasol i berson byw y gellir ei adnabod o’r wybodaeth ei hun, neu drwy ei gysylltu â gwybodaeth arall. Er enghraifft, gall fod eich enw a chyfeiriad, cofnod disgybl ysgol neu wybodaeth iechyd eich hun.
Prosesu data personol yw’r enw sy’n cael ei roi i unrhyw beth y gwnawn gyda’ch data personol yn ein meddiant. Er enghraifft, cofnodi eich manylion yn eich systemau cyfrifiadurol neu stori ffurflen wedi’i llenwi mewn cwpwrdd ffeilio.
Mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i gydymffurfio â holl elfennau o’r Ddeddf Diogelu Data.
Pam fod y gyfraith deddf diogelu data yn newid?
Mae’r newid i’r Ddeddf Data Diogelu Data (1998) presennol yn cael ei gyflwyno oherwydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn rheoliad Ewropeaidd sy’n gosod y newidiadau y bydd yn rhaid i’r DU eu gweithredu mewn Deddf Diogelu Data newydd.
Bydd y gyfraith diogelu data newydd yn cael ei gyflwyno ar 25 Mai 2018 ac yn ffurfio sail y Ddeddf Diogelu Data newydd.
Bydd y Ddeddf newydd yn disodli’r Ddeddf Diogelu Data presennol gyda’r nod i roi mwy o hawliau a rheolaeth ar sut y mae sefydliadau fel y Cyngor yn delio â’ch data personol.
Mae’r gyfraith diogelu data newydd yn creu un gyfres o reolau i bawb yn yr Undeb Ewropeaidd gan sefydlu dull unedig i ddiogelu data personol ar gyfer holl unigolion yr UE.
Pa newidiadau y bydd y gyfraith diogelu data newydd yn eu cyflwyno?
Pan gyflwynwyd y Ddeddf Diogelu Data presennol yn 1998, roedd y rhyngrwyd yn beth newydd iawn ac roedd gan bobol ddiffyg dealltwriaeth o’r goblygiadau llawn o sut y gellir ei ddefnyddio – yn arbennig wrth gasglu gwybodaeth bersonol.
Wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu, mae diffiniadau newydd o ddata personol yn cael ei gyflwyno fel cyfeiriad IP eich cyfrifiadur neu leoliad eich ffôn symudol. Label yw eich cyfeiriad IP sy’n cael ei ddefnyddio i adnabod un neu fwy o ddyfeisiadau ar rwydwaith cyfrifiadurol fel y rhyngrwyd. Mae’n debyg i’ch cyfeiriad post ac yn gyfres o rifau hir.
I chi:
Bydd y Ddeddf Diogelu Data newydd yn cyflwyno mwy o fesurau diogelwch am sut y mae data personol yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau. Bydd yn cynnwys cymryd i ystyriaeth technoleg symudol newydd sy’n dal data personol – i’ch helpu i ymddiried yn sut y mae’n cael ei brosesu a’i rannu.
Fel cyngor byddwn:
- yn cyflwyno gweithdrefnau dogfennu a phrosesu newydd
- yn cryfhau ein rheolau i ddileu a chael gwared ar ddata personol
- yn agored gyda chi am yr hyn y byddwn yn ei wneud â’ch data
- yn gwneud yn siŵr ein bod yn perfformio asesiadau preifatrwydd ar gyfer cwsmeriaid penodol
- ond yn defnyddio’r cyfanswm lleiaf o ddata personol sydd ei angen i drosglwyddo gwasanaeth i chi
- yn ymateb i ymholiadau data personol o fewn amserlen briodol
- yn eich hysbysu, pan fo angen, os ydym yn colli eich data personol a thorri’r Ddeddf.
O dan y rheolau newydd, fel corff cyhoeddus rydym hefyd angen penodi Swyddog Diogelu Data – uwch swyddog pwrpasol a fydd yn gorfodi sut y byddwn yn casglu a phrosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith diogelu data newydd.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT