A chofiwch y popgorn! Mae Sinema Awyr Agored eiconig Wrecsam yn ôl ar gyfer Diwrnod y Cariadon.

Mae’r tocynnau bellach ar gael ar gyfer y sinema awyr agored fydd yn cael ei gynnal ddydd Sul, 11 Chwefror, ym maes parcio Byd Dŵr Wrecsam.

Y ddwy ffilm ramantaidd fydd:

Beauty and the Beast (2017) 5.15pm

Ghost (1990) 8pm

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

 

Oeddech chi’n gwybod?

Beauty and the Beast

  • Roedd yn rhaid i Dan Stevens, a oedd yn chwarae rhan Beast, ddawnsio ar stilts yn ystod yr olygfa gyda’r ddawns neuadd
  • Crëwyd pocedi yn ffrog las Belle i ddal ei llyfrau. Bu i’r dylunydd gwisgoedd ddylunio pocedi yn ffrog las enwog Belle er mwyn iddi roi ei llyfrau ynddyn nhw
  • Beauty and the Beast oedd ffilm fwyaf 2017

Ghost

  • Hon oedd ffilm fwyaf poblogaidd 1990
  • Yn sgil Ghost, Demi Moore oedd yr actores gyda’r cyflog uchaf ar y pryd
  • Enillodd Whoopi Goldberg Oscar am yr Actores Gefnogol Orau ar gyfer ei rôl yn y ffilm

Mae’r tocynnau yn gwerthu’n sydyn, felly peidiwch â cholli’r cyfle gwych yma. Bydd popcorn i bob car pan fyddant yn cyrraedd!

Mae’r tocynnau’n costio £15 y car. Mae’r tocynnau ar gael o Ganolfan Groeso Wrecsam (sydd ar agor yn ystod yr wythnos o 10am tan 4pm) 01978 292015

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat

DILYNWCH NI AR SNAPCHAT