Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?
Fyddech chi’n gallu arwain adran o 300 o bobl, rheoli cyllideb gwerth sawl miliwn o bunnau, a gwneud rhan fach wych o’r byd ychydig yn well?
Os felly (ac os ydych yn chwilio am swydd sy’n rhoi llawer o foddhad), efallai y bydd hyn o ddiddordeb i chi…
Ysbrydoli’r bobl sy’n gofalu am ein strydoedd
Rydym yn chwilio am Brif Swyddog i arwain ein Hadran Amgylchedd a Thechnoleg.
Rhywun sy’n gallu arwain ac ysbrydoli’r bobl sy’n gofalu am ein strydoedd, ein ffyrdd a’n parciau gwledig, y bobl sy’n casglu ein sbwriel a’r bobl sy’n sicrhau ein bod ni’n parhau i ailgylchu, a llawer o weithwyr eraill sy’n helpu i ofalu am ein sir.
I’r unigolyn cywir, mae hwn yn gyfle gyrfa wych ac yn gyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau 135,000 o bobl.
Faint o swyddi sy’n gallu cynnig hynny?
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae pobl yn Wrecsam yn haeddu’r gwasanaethau gorau, ac mae hynny’n golygu cael y bobl gorau i ddod i weithio yma.
“Mae arnom ni angen rhywun sydd â’r profiad a’r wybodaeth ymarferol arbennig i arwain adran fawr, a chymryd cyfrifoldeb dros rai o’n swyddogaethau mwyaf gweledol – gwasanaethau sy’n cael effaith ar bron i bob un aelwyd yn y sir.
“Mae hon yn swydd bwysig tu hwnt, ond mae hefyd yn gyfle gwych i’r unigolyn cywir.”
YMGEISIWCH RŴAN
Felly ble mae Wrecsam?
Mae Wrecsam yn lle gwych. Nid yw’n berffaith ac mae ganddo ei wendidau… fel bobman arall. Ond mae’n lle gwych.
Os nad oeddech chi’n gwybod, mae Wrecsam yng Ngogledd Cymru.. ar y ffin gyda Lloegr.
Diolch i gysylltiadau ffyrdd da, mae’n cymryd llai nag awr i deithio i Fanceinion a Lerpwl. Ac mae arfordir hyfryd Gogledd Cymru dafliad carreg i ffwrdd.
Mae gennym brifysgol, un o’r colegau addysg bellach gorau yn y DU, ac rydym yn gartref i rai o fusnesau mwyaf llwyddiannus Prydain – o frandiau byd-eang megis JCB i arweinwyr y farchnad, megis Moneypenny.
Mae gennym hefyd Safle Treftadaeth y Byd arbennig – Camlas a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte.
Oes gennych chi’r sgiliau?
Felly…ydych chi’n barod i fod yn rhan o dîm arweiniol dynamig newydd yn Wrecsam, yn gweithio ar ran preswylwyr?
Dywedodd y Prif Weithredwr, Ian Bancroft: “Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â gwybodaeth a sgiliau gwych, wedi’u datblygu mewn sefydliad tebyg sy’n ymdrin â chwsmeriaid.
“Os mai chi yw’r unigolyn cywir, byddwch yn ymuno â gweithlu ymroddgar sy’n gweithio ar ran Wrecsam a’i phobl.
“Mae hon yn swydd allweddol a bydd y cyngor a’r cyhoedd yn disgwyl llawer ohonoch. Ond ni fyddwch ar eich pen eich hunan – byddwn yn cymryd cydgyfrifoldeb ac yn cynnig cefnogaeth gref i chi.
“I’r unigolyn cywir, mae hon yn swydd uwch reoli werthfawr tu hwnt mewn cyngor cyfeillgar sy’n edrych tua’r dyfodol.”
Oes gennych chi ddiddordeb? Ewch i ddysgu mwy am y swydd a gwnewch gais nawr.
YMGEISIWCH RŴAN