Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Draenio Pwll Stryt Las i’w Lanhau ac i Dynnu’r Pysgod Allan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Draenio Pwll Stryt Las i’w Lanhau ac i Dynnu’r Pysgod Allan
Pobl a lleY cyngor

Draenio Pwll Stryt Las i’w Lanhau ac i Dynnu’r Pysgod Allan

Diweddarwyd diwethaf: 2019/01/07 at 2:01 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Draenio Pwll Stryt Las i'w Lanhau ac i Dynnu’r Pysgod Allan
RHANNU

Os byddwch chi’n ymweld â Pharc Stryt Las yn Johnstown, efallai y sylwch chi fod gwaith wrthi’n cael ei wneud i ddraenio a glanhau’r pwll mawr.

Mae’r Ceidwaid yn gwneud hyn bob blwyddyn er mwyn glanhau gwely’r llyn yn iawn. Mae’r sbwriel yn y llyn yn hyll ac yn aml yn beryglus i’r adar niferus sy’n byw ar y llyn yn Stryt Las.

Dros y blynyddoedd rydym ni wedi tynnu arwyddion traffig, beiciau, miloedd o ganiau a photeli a’r trolïau siopa hynod boblogaidd o’r mwd.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dal unrhyw bysgod sydd yn y llyn â rhwyd ac yn eu symud i bwll neu lyn arall sydd angen ei stocio. Rydym yn tynnu’r pysgod allan er budd y madfallod dŵr cribog prin sy’n byw ar y safle. Yn anffodus, mae pysgod yn hoffi bwyta’r madfallod dŵr cribog, a gan fod y fadfall yn rhywogaeth a warchodir a Stryt Las yn Ardal Cadwraeth Arbennig ddynodedig, mae’n rhaid cadw pysgod allan o’r pwll.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Mae’r hwyaid a’r elyrch sy’n byw ar y llyn yn Stryt Las yn rhydd i hedfan i byllau eraill, fel y maen nhw’n ei wneud yn aml, a dychwelyd yno’n nes ymlaen. Mae’r ceidwad yn gofyn i ymwelwyr beidio â bwydo’r hwyaid. Mae bwydo’r hwyaid a’r elyrch yn annog yr adar i fod yn llai ofnus o bobl, ac mae hynny’n eu gwneud yn fwy agored i niwed, yn enwedig gan gŵn – problem sy’n codi’n aml tra mae’r llyn yn cael ei ddraenio.

Os hoffech chi helpu’r ceidwaid i lanhau’r llyn, ffoniwch nhw ar 01978 822780. Ar ôl dal y pysgod a chlirio’r sbwriel, bydd y llyn yn cael ei adael i ail-lenwi’n naturiol.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae llawer o bobl yn ymweld â’r parc hwn yn ystod misoedd y gaeaf, a bydd yr ymwelwyr rheolaidd wedi hen arfer â’r gwaith glanhau blynyddol hwn. Mae’r Ceidwaid yn gweithio’n galed i warchod yr Ardal Cadwraeth Arbennig, y madfallod gwarchodedig a’r bywyd gwyllt arall sy’n byw ar y safle.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

YMGEISIWCH NAWR

Rhannu
Erthygl flaenorol laptop Ydych chi wedi derbyn e-bost am eich trwydded teledu? Mae’n debyg mai twyll ydyw!
Erthygl nesaf Keeping Wrexham's streets clean Swydd fydd yn cael effaith ar 135,000 o fywydau. Ai hon yw’r swydd i chi?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English