Mae ein Tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio gydag achosion sy’n amrywio o ail-alluogi pobl hŷn, i bobl ifanc ag anableddau. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth ac mae gennym strwythur staffio sy’n cefnogi gweithwyr gyda’u datblygiad proffesiynol parhaus ac i ddringo’r ysgol yrfa.
Mae gennym nifer o swyddi gwag ar hyn o bryd oherwydd datblygiadau cyffrous yn y gwasanaeth, sy’n arwain at ehangu’r tîm o staff.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost
Os ydych chi’n berson llawn cymhelliant a brwdfrydedd dros wella gwasanaethau’n barhaus i bobl hŷn, oedolion diamddiffyn, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, yna gallwn gynnig goruchwyliaeth a chefnogaeth reolaidd i chi, ynghyd â chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a hyfforddiant i’ch galluogi chi i ddarparu gwasanaeth o safon uchel.
Rhoddir cefnogaeth i’r rheiny sydd â llai o brofiad i ddatblygu eu sgiliau a’u cymwyseddau.
Mae angen cymwysterau Gofal Cymdeithasol at Lefel 4 ar gyfer y swyddi hyn a bydd angen cael gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am drafodaeth anffurfiol am y swyddi, cysylltwch â Cressida Travis neu Joanna Maddison ar 01978298003 / 298008.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH