Illegal Tobacco

Mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach yn Wrecsam wedi cael ei ailstrwythuro’n sylweddol yn y misoedd diwethaf ac mae Arweinydd Tîm a dau Hyfforddai newydd wedi cael eu penodi.

Rydym yn awr yn chwilio am swyddog cymwys arall i gwblhau’r tîm a chyfrannu ar y rheng flaen ar droseddau stepen y drws, sgamiau, diogelwch cynnyrch, masnachu teg, gwerthu tybaco anghyfreithlon ac i blant dan oed.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Efallai eich bod newydd gymhwyso neu efallai bod gennych flynyddoedd o brofiad ar ôl cymhwyso, ond byddwch yn bendant yn rhywun brwdfrydig, sy’n gallu cymell eich hun a bod yn aelod positif o dîm i gefnogi datblygiad eich cydweithwyr yn ogystal â chi eich hun fel bod y gwasanaeth yn gallu darparu’r gwasanaeth gorau bosibl i breswylwyr a busnesau’r Fwrdeistref Sirol.

Byddwch wedi cymhwyso hyd at lefel DCATS/DTS neu gyfwerth ac mae’n bosibl y bydd gennych gymhwyster mewn Pwysau a Mesurau hefyd. Mae arnom eisiau i chi arwain ar ymchwiliadau, cwynion a gwaith prosiect ble byddwch yn cael eich cefnogi gan gydweithwyr a byddwch chithau hefyd yn eu cefnogi nhw gyda’u llwyth gwaith hwythau.

Rydym yn gosod ein blaenoriaethau a’n llwyth gwaith yn ôl egwyddorion IOM a thros y blynyddoedd rydym wedi bod yn gwella cydymffurfiaeth gyda llif gyson o ganlyniadau llwyddiannus yn defnyddio’r holl offer gorfodi sydd gennym yn cynnwys erlyn a gwahardd.

Rydym wedi symud yn ddiweddar i swyddfeydd sydd newydd gael eu hailwampio ac mae gennym ddiwylliant o weithio’n hyblyg. Mae Dinas Wrecsam wrth wraidd economi Gogledd Ddwyrain Cymru, yn agos at y ffin â Lloegr gyda mynediad rhagorol at olygfeydd godidog Gogledd Cymru a dinasoedd mawr Gogledd Orllewin Lloegr.

Mae pecyn adleoli ar gael i’r ymgeisydd llwyddiannus os bydd angen symud i gymryd y swydd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd eisiau gweithio’n llawn amser neu’n rhan amser.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd eisiau gweithio’n llawn amser neu’n rhan amser.

I gael gwybod mwy gallwch siarad â Roger Mapleson,  roger.mapleson@wrexham.gov.uk 01978 297450 neu Will Jones, william.jones@wrexham.gov.uk 01978 297451

I wneud cais, ewch ar-lein a chwiliwch am ‘Swyddog Gwarchod y Cyhoedd’.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein gweithlu dwyieithog ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu hystyried yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad cau: Dydd Sul 12 Chwefror 2023

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI