Ers 24 Medi mae’n rhaid i bob tafarn yng Nghymru roi’r gorau i weini alcohol am 10pm. Mae’r gyfraith newydd yn rhoi 20 munud i gwsmeriaid orffen eu diodydd er mwyn i’r tafarndai gau erbyn 10.20pm.
Mae’r gyfraith newydd hefyd yn berthnasol i siopau trwyddedig ac eiddo trwyddedig eraill, ac mae’n golygu bod gwerthu alcohol rhwng 10pm a 6am yn anghyfreithiol (ond mae modd i’r llefydd yma aros ar agor i werthu pethau eraill). Er enghraifft, gall pob archfarchnad a mân-werthwyr bwyd sy’n gwerthu alcohol barhau i fasnachu ar ôl 10pm – ond chân nhw ddim gwerthu unrhyw alcohol.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Gall mannau eraill gyda thrwyddedau e.e. sinemâu a chanolfannau bowlio deg, hefyd aros ar agor ar ôl 10pm ond, wrth gwrs, ni fydd modd iddyn nhw werthu alcohol ar ôl 10pm. Felly hefyd bwytai a chaffis – mae’n rhaid iddyn nhw stopio gwerthu alcohol am 10pm.
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, “Mae’r cyfreithiau newydd wedi’u creu i ddiogelu Wrecsam a Chymru ac i leihau’r risgiau sydd ynghlwm wrth niferoedd mawr o bobl yn yfed ar noson allan.
“Mae cadw pellter cymdeithasol yn anodd iawn ar ôl ychydig o ddiodydd meddwol, ac felly dw i’n gobeithio y bydd y cyfyngiadau yma yn atal ymddygiad mentrus. Fodd bynnag, os nad ydi hyn yn gweithio a bod nifer yr achosion yn parhau i gynyddu, bydd cyfyngiadau pellach yn anorfod.”
Yn ystod y nosweithiau nesaf bydd Heddlu Gogledd Cymru a Swyddogion Trwyddedu Cyngor Wrecsam yn cefnogi busnesau drwy ddarparu cyngor a monitro eu cydymffurfedd â’r cyfreithiau newydd.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG