30 Awst 2023 10:30 – 12:30
Amgueddfa Wrecsam a thîm Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn y dyfodol yn cyflwyno, Taith Treftadaeth Bêl-droed Wrecsam, golwg ar y bobl, y lleoedd a’r digwyddiadau a luniodd pêl-droed yn Wrecsam ac ar draws Cymru gyfan.
Bydd y daith dywys hon drwy strydoedd Wrecsam yn mynd â chi i rai o’r lleoedd mwyaf eiconig ac adnabyddadwy yn y ddinas ac yn cysylltu’r dotiau rhwng tirnodau, pêl-droed a chymuned.
Mae hanes pêl-droed yn Wrecsam yn stori a ddechreuodd dros 150 o flynyddoedd yn ôl ac mae pob rhan o’r stori honno’n bodoli oherwydd y bobl yn Wrecsam nad oedd yn gwybod eu bod yn ysgrifennu hanes.
Nod ein taith yw eich cyflwyno chi i’r bobl hyn o’r holl flynyddoedd yn ôl a gwneud yn siŵr bod eu straeon yn parhau i fod wrth wraidd hanes Wrecsam fel man geni pêl-droed Cymru.
Meddai’r Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol,
“Cyflawnwyd ein Teithiau Treftadaeth Pêl-droed tywys cyntaf erioed o amgylch Wrecsam ddechrau mis Awst a chawsom adborth gwych. Canmolodd ymwelwyr y teithiau am fod wedi’u hymchwilio’n dda, wedi’u cyflwyno’n dda, yn hwyl ac yn addysgiadol.
“Yn dilyn llwyddiant y teithiau cychwynnol hyn, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn trefnu mwy i’w cynnal dros yr wythnosau nesaf. Mae tocynnau ar gael trwy dudalen Eventbrite Amgueddfa Wrecsam https://www.eventbrite.co.uk/o/amgueddfa-wrecsam-wrexham-museum-40209720463.
“Mae’r teithiau wedi cael eu hymchwilio a’u trefnu’n wych gan ein Swyddogion Ymgysylltu Amgueddfa Bêl-droed, sy’n rhan o dîm prosiect ‘Amgueddfa Dau Hanner’ yn Amgueddfa Wrecsam. Bydd y prosiect yn gweld Amgueddfa Bêl-droed newydd sbon i Gymru yn cael ei datblygu ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam wedi’i hadnewyddu’n llawn.”
“Bydd y teithiau’n cynnig golwg addysgiadol a difyr ar y bobl, y lleoedd a’r digwyddiadau a luniodd bêl-droed yn Wrecsam ac ar draws Cymru gyfan dros y 150 mlynedd diwethaf.
“Bydd y daith dywys hon drwy strydoedd Wrecsam yn mynd â chi i rai o’r lleoedd mwyaf eiconig ac adnabyddadwy yn y ddinas ac yn cysylltu’r dotiau rhwng tirnodau, pêl-droed a chymuned.”
Gwybodaeth bwysig:
- Bydd y daith hon yn cael ei chyflwyno yn Seasneg. Mae taith Gymraeg ar gael hefyd. Ewch i’n prif dudalen Eventbrite am ragor o wybodaeth.
- Gallwch archebu lle ar daith hyd at 2 ddiwrnod cyn yr amser cychwyn a nodir.
- Mae’r daith yn cychwyn ar gwrt blaen Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, LL11 1RB. Ymgynullwch yma 15 munud cyn amser cychwyn eich taith.
- Yr oedran a argymhellir ar gyfer y daith yw 12+.
- Efallai y bydd angen gohirio teithiau yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol/peryglus. Byddwn yn eich hysbysu os bydd hyn yn digwydd.
- Fe’ch cynghorir i wisgo esgidiau cyfforddus/synhwyrol, gyda’r daith yn digwydd yn bennaf ar lwybrau troed sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda.
- I gael gwybodaeth am archebion grŵp, cysylltwch â museum@wrexham.gov.uk.
- Mae’n ddrwg gennym na allwn gynnig ad-daliadau am ganslo cwsmeriaid neu ddim sioeau.
Gallwch hefyd archebu lle drwy ymweld ag Amgueddfa Wrecsam yn bersonol neu dros y ffôn:
Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, LL11 1RB, 01978 297460
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch