Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen #TakeFiveWeek yn eich annog i gadw’n ddiogel rhag twyll
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > #TakeFiveWeek yn eich annog i gadw’n ddiogel rhag twyll
Arall

#TakeFiveWeek yn eich annog i gadw’n ddiogel rhag twyll

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 17, 2020 9:23 am
Rhannu
Darllen 3 funud
#TakeFiveWeek encourages you stay safe from fraud
RHANNU

Ddydd Llun, 9 Mawrth, lansiwyd #TakeFiveWeek – ymgyrch genedlaethol i’ch annog chi i stopio a rhoi digon o amser i chi’ch hun beidio â chael eich twyllo.

Mae troseddwyr yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i dwyllo pobl felly mae Take Five yn awgrymu tri cham pwysig i chi eu dilyn i benderfynu a yw’n ddiogel i chi wario’ch arian neu ddarparu’ch gwybodaeth bersonol.

STOPIO – Gall dreulio munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.

HERIO – Ydi’r cynnig yn un go iawn? Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr fydd yn eich rhuthro neu’n gwneud i chi ddychryn.

AMDDIFFYN – Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud.

PEIDIWCH Â GADAEL I DWYLLWYR EICH SGAMIO! COFRESTRWCH I GAEL CYNGOR A RHYBUDDION AR SGAMIAU YN EICH ARDAL CHI

Mae Take Five wedi creu cwis o’r enw ‘Are You Scam Savvy?’ Beth am roi cynnig arno a gweld sut hwyl cewch chi?

It’s the launch of #TakeFiveWeek 2020. Check back this week for tips and advice to help you say no to fraud & scams. Take our #TakeFive quiz and check if you’re scam-savvy: https://t.co/u0fWRwp8fO pic.twitter.com/0lBXmKs6ag

— Take Five (@TakeFive) March 9, 2020

Cyngor Safonau Masnach Wrecsam

Pan rydym yn ein cartrefi ein hunain, mae gennym deimlad o ddiogelwch y bydd rhai o droseddwyr yn cymryd mantais ohono. Gall y troseddwyr hyn weithredu dros y ffôn, gyda llythyr drwy’r post, neges e-bost i’ch cyfrifiadur, neges destun i’ch ffôn, taflen drwy’r blwch post neu cnoc ar eich drws.

Bob tro mae rhywun eisiau manylion eich cerdyn, neu gofrestru i rywbeth nad ydych eisiau/angen; stopiwch a chymerwch 5 munud. Peidiwch â chytuno i unrhyw beth yn eich cartref eich hun heb gymryd amser i’w ystyried gyntaf, neu siarad ag aelod teulu neu ffrind. Mae’n amlwg iawn, ond defnyddiwch yr agwedd ‘peidio ymddiried yn neb’ a chwestiynu popeth.

Drwy gofio nad ydym wedi gofyn am yr alwad ffôn, y cnoc ar y drws, ac yna gwrthod yn gwrtais; rydym wedi mynd i’r afael â’r mater. Rydym wedi stopio’r troseddwyr o’r cychwyn cyntaf. Rydym wedi diogelu ein hunain yn ein cartref. Rydym wedi diogelu ein harian.

Cofiwch, nid yw busnesau go iawn a masnachwyr lleol dibynadwy yn ffonio heb ofyn, ac nid ydynt yn gofyn am arian parod o flaen llaw.

Am ragor o wybodaeth, neu i adrodd pryderon, gallwch gysylltu â Safonau Masnach Wrecsam ar: tradstand@wrexham.gov.uk

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau eich bod yn ddiogel.

Os hoffech chi roi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma! [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Nine Acre Field consultation Mae ymgynghoriad Cae Nine Acres ar agor – lleisiwch eich barn
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 17.3.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English