Mae gwaith celf gan rai o ddoniau creadigol ifanc gorau Wrecsam yn cael ei arddangos mewn arddangosfa newydd yn Tŷ Pawb.
Crëwyd y gweithiau yn gynharach eleni fel rhan o gyfres dosbarth meistr Criw Celf / Portffolio.
Cymerodd tua 64 o bobl ifanc ran yn y dosbarthiadau meistr yn gyfan gwbl.
Dyluniwyd y dosbarthiadau i roi cyfle i bobl ifanc dalentog weithio gydag artistiaid proffesiynol, datblygu eu sgiliau a rhyddhau eu potensial artistig.
Yn ystod y gweithdai, roedd y bobl ifanc yn gallu gweithio ar draws ystod o gyfryngau gan gynnwys argraffu sgrin, tecstilau a cherfluniau – mae pob un ohonynt i’w gweld ar yr arddangosfa newydd!
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Un wythnos i fwynhau!
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Ardal Groeso Tŷ Pawb (ger y Dderbynfa) rhwng dydd Sadwrn Hydref 26 a dydd Sadwrn Tachwedd 2.
Disgwylir y bydd mwy o ddosbarthiadau Criw Celf / Portffolio yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â criwcelfwrecsam@gmail.com