Bydd Plas Pentwyn yng Nghoedpoeth yn agor ei ddrysau ar Fawrth 13 i rai o gerddorion mwyaf cyffrous Cymru hybu talent Gymreig mewn awyrgylch gymunedol wledig.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Fawrth 16 ac yn dechrau am 7.30. £10 yn unig fydd cost ticed.
Blodau Papur fydd yn serennu. Band talentog sy’n canu drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o’r aelodau yw Alys Williams, a ddewiswyd gan Syr Tom Jones ar gyfres 2 o ‘The Voice’!
Gellir gweld fideo ohonynt wrth bwyso ar y linc isod:
Yn cefnogi fydd dau o ddisgyblion Ysgol Morgan Llwyd. Arwyddodd Elan Catrin Parry gytundeb recordio ar ôl iddi gael ei gweld yn canu yn yr Eisteddfod. Bydd y gitarydd 15 oed Ifan Owen yn perfformio hefyd. Mae’n debyg fod dyfodol disglair i’r ddau ym maes cerddoriaeth.
Mae Elan yn gwneud tipyn o enw i’w hun yn barod, fel y gwelir o’r fideo isod
Os oes gennych ddiddordeb mynychu’r digwyddiad dwyieithog hwn, gyrrwch neges destun i 07732 561460 neu e-bostiwch carl.jones007@btinternet.com
Dywedodd Stephen Jones ein Cydlynydd Iaith Gymraeg: Mae cefnogaeth dda i ddigwyddiadau dwyieithog bob tro, ac mae’n braf gweld cymuned y tu allan i ganol y dref yn dod at ei gilydd i gefnogi cerddorion a chantorion lleol. Dymunaf pob llwyddiant iddynt.
“Rydym bob tro’n hapus i fod o gymorth i hybu digwyddiadau dwyieithog yn Wrecsam, os oes angen gwybodaeth bellach arnoch ar y cymorth y gallwn ei gynnig, cysylltwch â cymraeg@wrexham.gov.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR