Mae Cyngor Wrecsam wedi rhannu dros £33 miliwn o grantiau a thaliadau Llywodraeth Cymru ers cychwyn y pandemig.
Mae Cynghorau ledled Cymru wedi bod ar y rheng flaen yn gweinyddu cynlluniau grant a phecynnau ariannol eraill a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru – gan gynnig cymorth hanfodol i aelwydydd a busnesau a amharwyd gan effaith economaidd y feirws.
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor:
“Mae wedi bod yn fenter enfawr ac fe hoffwn ddiolch i adrannau Cyllid a TGCh, Tai a’r Economi, Addysg a Gofal Cymdeithasol y Cyngor am gyfrannu i andros o ymdrech dîm a chamu ymlaen i wynebu’r her.
“Rydw i’n falch ein bod wedi gallu chwarae ein rhan wrth weinyddu’r arian hwn sydd wedi helpu cymaint o bobl a busnesau lleol.
“Fe wyddom fod y flwyddyn hon wedi bod yn un anodd mewn cymaint o ffyrdd, ac mae’r grantiau a’r taliadau hyn wedi helpu cadw nifer o aelwydydd a busnesau i fynd.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Yr hyn rydym wedi’i dalu allan hyd yma (ar 1 Rhagfyr)
Dyma faint o arian Llywodraeth Cymru rydym wedi’i dalu allan hyd yma:
- £1.5 miliwn mewn taliadau prydau ysgol am ddim.
- £2.3 miliwn mewn taliadau bonws £500 i 3,458 o ofalwyr.
- £25 miliwn mewn grantiau cymorth i 2,133 o fusnesau lleol dros y cyfnod clo cyntaf.
- £3.7 miliwn mewn grantiau cymorth i 1,222 o fusnesau yn ystod y cyfnod atal byr (mis Hydref).
- £225 mil mewn grantiau cychwyn i 90 o fusnesau.
- £158 mil mewn grantiau gweithwyr llawrydd i 63 o fusnesau.
- £591 mil mewn grantiau dewisol y cyfnod atal i 330 o fusnesau.
Yn ogystal â grantiau, rydym hefyd wedi darparu cymorth mewn sawl ffordd arall i berchnogion busnesau.
Mae enghreifftiau’n cynnwys gwyliau rhent yn gynharach eleni i fasnachwyr stondinau marchnad y cyngor a thenantiaid masnachol, yn ogystal â chynnal taliadau i ddarparwyr cludiant ysgolion.
Meddai’r Cynghorydd David Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:
“Y gobaith yw bod y taliadau a’r mathau eraill o gymorth a ddarparwyd gan y cyngor – gan gynnwys grantiau Llywodraeth Cymru – wedi gwneud bywyd ychydig yn haws yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
“Ac i rai pobl, maen nhw wedi darparu achubiaeth go iawn.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG