Yr wythnos ddiwethaf, roedd nifer o’n trigolion sy’n byw yn y cymunedau o amgylch safle tirlenwi Chwarel Hafod yn bryderus, yn ddigon teg, am dân mawr a gychwynnodd ar y safle, a gymerodd sawl diwrnod i’w ddiffodd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, gofynnwyd iddyn nhw gadw at y cyngor a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i aros yn y tŷ gyda’u ffenestri ar gau nes y byddai’n ddiogel i’w hagor a mynd allan i’w gerddi unwaith eto.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Gan fod y tân bellach wedi’i ddiffodd a’r awdurdodau wedi gadael y lleoliad, roeddem yn meddwl y byddai’n fuddiol rhoi gwybod i chi am yr hyn fydd yn digwydd nesaf mewn perthynas â’r safle.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn cynnal ymchwiliad i achos y tân ac i ganfod a dorrwyd unrhyw rai o reoliadau’r safle mewn unrhyw ffordd, a byddant yn adrodd ar hyn ar ôl cwblhau’r ymchwiliad.
Bydd nifer ohonoch chi’n ymwybodol nad oes gan y Cyngor unrhyw fuddiannau yn y safle, yn ariannol nac yn fasnachol, ac nad ydym chwaith yn ei ddefnyddio ar gyfer ein gwastraff cartref. Mae’r safle dan berchnogaeth breifat ac o dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fodd bynnag, mae gennym bob amser ddyletswydd i warchod iechyd a lles pob un o’n trigolion pan fo digwyddiad fel hyn yn codi.
Ceisio sicrwydd am ddiogelwch safle tirlenwi Chwarel Hafod
O ystyried hyn, a phryderon y trigolion yr effeithiwyd arnyn nhw, mae Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y Cynghorydd David A Bithell, wedi ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, i geisio sicrwydd am ddiogelwch safle tirlenwi Chwarel Hafod, gan holi pa gamau neu ymchwiliadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal cyn ei ailagor i’w ddefnyddio yn y dyfodol.
Meddai: “Mae nifer o drigolion y cymunedau cyfagos wedi codi pryderon sylweddol am ddiogelwch y safle yn y dyfodol, ac maent yn pryderu am les eu teuluoedd a’u hanwyliaid gyda’r bygythiad o fwy o danau yn safle’r Hafod.
“Ers nifer o flynyddoedd, mae Wrecsam wedi cyflwyno mesurau prosesu gwastraff llwyddiannus sy’n golygu mai ffracsiwn bychan yn unig o’n gwastraff (cynhyrchion asbestos yn bennaf) sy’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi, a hynny i gyfleuster prosesu arbenigol. Y llynedd, bu i CBS Wrecsam anfon 339.29 tunnell o wastraff i safle tirlenwi, sef 0.4% o gyfanswm y gwastraff y bu i ni ei gasglu (88,527 tunnell), ac ni anfonwyd unrhyw wastraff i safle tirlenwi Hafod.
“Fel sawl awdurdod ledled Cymru, rydym yn llwyddo i brosesu gwastraff yn bennaf heb fod angen triniaethau tirlenwi, ond eto, mae yna safle tirlenwi lleol wedi’i leoli fetrau yn unig oddi wrth rhai o’n cymunedau trefol trwchus eu poblogaeth. Tybed a gaf i holi am fanylion y sgil-gynhyrchion gwastraff a ollyngwyd yn safle’r Hafod dros y tri mis diwethaf, yn ogystal â’u ffynonellau?
“Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhannu’r un pryderon â mi ynglŷn â hyfywedd y safle yn y dyfodol, ac edrychaf ymlaen at ymchwiliadau a chasgliadau Llywodraeth Cymru cyn i’r safle gael caniatâd i dderbyn gwastraff pellach i’w drin heb ddeall a gweithredu mesurau lliniaru priodol.”
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19