Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Teuluoedd i elwa oherwydd y Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg
Wrexham Social care academy
Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Busnes ac addysg Y cyngor
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
park and ride
Wrecsam v Portsmouth – cofiwch am y Parcio a Theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Tŷ Pawb yn croesawu gwirfoddolwyr yn ôl i’r Ardd ar y To!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Teuluoedd i elwa oherwydd y Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol
Y cyngor

Teuluoedd i elwa oherwydd y Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol

Diweddarwyd diwethaf: 2021/11/05 at 8:12 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
Landlords
RHANNU

Gall teuluoedd Wrecsam sydd mewn eiddo rhent preifat edrych ymlaen at gartrefi cynhesach diolch i ymgyrch newydd i’n helpu ni i roi stop ar landlordiaid nad ydyn nhw’n sicrhau bod eu heiddo yn cyrraedd graddfa ynni ofynnol E.

Cynnwys
Gallai 400 o gartrefi yn Wrecsam fod yn fwy effeithlon o ran ynniRydw i’n landlord, beth sydd angen i mi ei wneud?Rydw i’n denant, beth sydd angen i mi ei wneud?“Biliau ynni rhatach”

Gallai hyn arbed hyd at £180 ar eu biliau ynni i denantiaid incwm isel mewn llety rhent preifat, yn ogystal â mynd i’r afael â thlodi tanwydd a sicrhau y gall pawb fyw mewn cartref cynnes gyda biliau ynni fforddiadwy.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Gallai 400 o gartrefi yn Wrecsam fod yn fwy effeithlon o ran ynni

Ers mis Ebrill 2020, rhaid i eiddo rhent preifat gyrraedd graddfa berfformiad ynni ofynnol, sef Band E y Dystysgrif Perfformiad Ynni (TPY), ac mae’n anghyfreithlon rhentu tai â graddfa is na hynny oni bai bod y Landlord wedi cofrestru eithriad. Gallai peidio â chydymffurfio â’r Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol arwain at ddirwyon o hyd at £5,000.

Gallai tua 400 o dai yn Wrecsam brofi manteision y gwelliannau, a allai gynnwys gosod gwres canolog, insiwleiddiad atig, ffenestri gwydr dwbl ac insiwleiddiad wal geudod.

I’n helpu ni i sicrhau bod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud, rydym ni wedi cael dros £78,500 gan Adran Busnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Bydd hyn yn cynnig adnoddau ychwanegol i godi ymwybyddiaeth am y ddeddfwriaeth newydd ac i sicrhau bod landlordiaid yn cymryd y camau priodol cyn gynted ag y bo modd.

Bydd y cyllid hefyd yn talu am gost swyddog gwarchod y cyhoedd arbenigol i oruchwylio’r rhaglen gyda chymorth Swyddogion Arbed Ynni.

Yn dilyn ymgyrch hyrwyddo, byddwn yn ysgrifennu at landlordiaid i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u dyletswyddau cyfreithiol, ac yn cynnig gwybodaeth iddyn nhw a’u cyfeirio at unrhyw gyllid sydd ar gael i wneud y gwelliannau angenrheidiol.

Rydw i’n landlord, beth sydd angen i mi ei wneud?

Os ydych chi eisoes yn gosod eiddo sydd â graddfa F neu G y TPY, ac nad ydych chi wedi cymryd camau’n barod, rhaid i chi wella graddfa’r eiddo er mwyn cyrraedd graddfa ofynnol E y TPY ar unwaith, neu gofrestru eithriad os yw hynny’n berthnasol.

Os nad oes gennych chi TPY ddilys ar gyfer yr eiddo, rhaid i chi drefnu i gael un a chymryd y camau priodol i sicrhau bod yr eiddo yn cydymffurfio â graddfa ofynnol E, neu gofrestru eithriad.

Os ydych chi’n bwriadu gosod eiddo, bydd angen i chi wneud gwelliannau er mwyn cyrraedd graddfa ofynnol E, neu gofrestru eithriad cyn i chi osod yr eiddo.

Os yw’ch eiddo chi’n wag ac nad ydych chi’n bwriadu ei osod, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth i wella ei raddfa nes y byddwch chi’n penderfynu ei osod unwaith eto.

Rydw i’n denant, beth sydd angen i mi ei wneud?

As a tenant you may be able to help your landlord achieve improvements by applying for a energy efficiency grant if you are eligible.

Grant funding might be available for your landlord who will be required to carry out the recommended works and as a result of the improvements you will be able to benefit from lower fuel bills.

If you require any further information about this campaign please email HealthandHousing@wrexham.gov.uk.

Cllr Hugh Jones Lead Member for Communities, Partnerships, Public Protection and Public Protection, said, “Most of the landlords we know and deal with regularly are very responsible and will be more than happy to make the improvements.

“However, any who do not reach the minimum standard within a reasonable time will face enforcement. It will be a last resort but it will be taken in order to ensure tenants in Wrexham are living in improved properties.”

“Biliau ynni rhatach”

Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai, “Mae hyn yn newyddion gwych i’r tenantiaid hynny mewn eiddo rhent preifat a fydd, cyn bo hir, yn gallu elwa ar well eiddo a biliau ynni rhatach. Bydd hefyd yn chwarae rhan fawr mewn sicrhau bod safonau tai’r fwrdeistref sirol yn cael eu gwella ar gyfer ein holl drigolion.”

Meddai Michael Gallagher, Pennaeth Midlands Energy Hub, “Mae Midlands Energy Hub wrth eu boddau’n cael helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyda Chystadleuaeth Gorfodi y Sector Rhentu Preifat a noddir gan Adran Busnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Mae’r gystadleuaeth hon yn ceisio helpu 59 o awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr i weithredu a gorfodi gofynion Rheoliadau’r Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol.

“Drwy wella ansawdd y stoc dai, mae’r prosiect cyfan yn ceisio targedu dros 95,000 o’r cartrefi rhent preifat sy’n perfformio waethaf, gyda’r nod derfynol o fynd i’r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon a gynhyrchir gan y sector tai domestig.”

MIdlands Energy Hub

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Goleuo balconi Neuadd y Dref i gefnogi #troiCymru’ngoch Goleuo balconi Neuadd y Dref i gefnogi #troiCymru’ngoch
Erthygl nesaf Ryan and Rob Croeso dinesig ffurfiol i Ryan a Rob sy’n cydnabod dyheadau dinesig Wrecsam.

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg Chwefror 27, 2026
Wrexham Social care academy
Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Busnes ac addysg Y cyngor Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Chwefror 27, 2026
park and ride
Wrecsam v Portsmouth – cofiwch am y Parcio a Theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror...
Pobl a lleY cyngor

Darpariaeth symudol newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio ar 17 Chwefror…

Chwefror 11, 2026
Women's Health Event 2026
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad Iechyd Menywod 2026

Chwefror 3, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English