Roedd D-Day, 6 Mehefin 1944, yn nodi dechrau Ymgyrch Overlord, yr ymgyrch awyr, forol a thir fwyaf erioed. Ar D-Day yn unig fe groesodd dros 150,000 o filwyr y Sianel. Hwn oedd y cam cyntaf i ryddhau Ffrainc a Gorllewin Ewrop, ond dioddefodd Lluoedd y Cynghreiriaid yn fawr iawn gyda bron i 210,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu hanafu erbyn diwedd Ymgyrch Overlord.
Ddydd Iau 6 Mehefin 2024, 80 mlynedd yn ddiweddarach, byddwn yn cofio’r rhai hynny a ymladdodd a’r rhai hynny a gollodd eu bywydau ar draethau Normandi. Y rhai hynny a adawodd eu teuluoedd gartref i amddiffyn rhyddid ac i ddod â heddwch, ac rydym yn cofio eu haberth a’u dewrder a sicrhaodd y rhyddid sydd gennym ni heddiw.
Caiff aelodau o’r cyhoedd eu gwahodd i ganol dinas Wrecsam lle bydd gorymdaith yn cael ei chynnal, yn cael ei harwain gan y Corfflu Drymiau a’r Banerwyr, y Maer, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Beverley Parry Jones ac aelodau o gymuned y lluoedd arfog.
Bydd yr orymdaith yn gadael Eglwys San Silyn am 1.15 pm gan orymdeithio i Gofeb Milwyr Normandi, Bodhyfryd, lle bydd gwasanaeth byr i osod torchau.
Llwybr yr orymdaith i goffáu 80 mlynedd ers D-Day
Bydd gorymdaith D-Day yn gadael San Silyn ar Stryt yr Eglwys yn mynd ar draws y Stryt Fawr i Stryt yr Hôb, ar hyd Stryt y Syfwr i Stryt y Lampint ac i’r chwith i Stryt Caer. Wrth y podiwm y tu allan i Adeiladau’r Goron bydd y Maer, yr Arglwydd Raglaw a Chefnogwr y Lluoedd yn derbyn y saliwt.
Bydd yr orymdaith wedyn yn mynd at Gofeb Milwyr Normandi lle bydd band Byddin yr Iachawdwriaeth Wrecsam yn chwarae. Fe fydd yna wasanaeth byr dan arweiniad y Tad Dylan Parry-Jones ac wedyn bydd torchau yn cael eu gosod.
Dywedodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Beverley Parry Jones, “Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf gyda’r lluoedd arfog a dyma ein cyfle i dalu teyrnged i’r rhai a laddwyd ac a anafwyd yn ystod yr ymosodiad mwyaf erioed o’r tir a’r môr. Rwy’n gobeithio y bydd nifer yn ymuno â ni wrth i ni ddod ynghyd i dalu teyrnged i’r rhai hynny a frwydrodd yn ddewr a’r rhai hynny a gollodd eu bywydau i sicrhau’r rhyddid sydd gennym ni heddiw.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Beth am gymryd rhan ym mhrosiect Parêd Pŵer Pedlo Dyfroedd Alun