Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen The Groves: Cyngor Wrecsam yn paratoi i drosglwyddo’r safle i Goleg Cambria
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > The Groves: Cyngor Wrecsam yn paratoi i drosglwyddo’r safle i Goleg Cambria
Busnes ac addysg

The Groves: Cyngor Wrecsam yn paratoi i drosglwyddo’r safle i Goleg Cambria

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 9, 2026 3:02 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, a Dywedodd Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, a Dywedodd Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria
RHANNU

Mae ateb ar gyfer hen safle Ysgol Uwchradd Groves bellach wedi’i ddarganfod diolch i gytundeb rhwng Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria.

Heddiw (9.6.26), rhoddodd Bwrdd Gweithredol y cyngor ganiatâd i drosglwyddo’r safle i Goleg Cambria – gan fraenaru’r tir i’r coleg ehangu ei ddarpariaeth addysg yn Wrecsam.

Caeodd Ysgol Uwchradd Groves ei drysau yn 2006. Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio wedyn gan staff y cyngor am rai blynyddoedd, ond bu’n wag ers dros ddegawd.

Mae’r coleg yn dweud y bydd caffael y safle yn ei helpu i fodloni anghenion addysg a hyfforddiant myfyrwyr a chyflogwyr ymhellach.

Dywedodd Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria: “Mae hwn yn foment arwyddocaol a chyffrous i Goleg Cambria ac i Wrecsam.

“Mae gan y Groves dreftadaeth addysgol falch ac rydym wrth ein bodd yn cymryd y cam nesaf tuag at ddod â’r safle yn ôl i ddefnydd ar gyfer dysgwyr a’r gymuned ehangach.

“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleoedd i bobl ifanc, cefnogi cyflogwyr a helpu i ddiwallu anghenion sgiliau yn y dyfodol.

“Mae’r cytundeb hwn yn nodi dechrau pennod newydd gyffrous i’r safle ac rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy am ein cynlluniau dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae’r Groves wedi bod yn bwnc trafod ers blynyddoedd lawer, ac mae’r cyngor wedi gweithio’n ddiflino i ddod o hyd i ateb.

“Mae wedi bod yn anodd iawn oherwydd y cyfamodau ar y tir a’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i restru’r adeilad, ond rydyn ni wedi dal ati ac mae bellach obaith.

“Mae Coleg Cambria yn ddarparwr addysg a hyfforddiant blaenllaw yng Ngogledd Cymru, ac mae ei lwyddiant yn hanfodol i’r rhanbarth, felly mae hwn yn ganlyniad gwych.

“Bydd dysgwyr a chyflogwyr yn elwa a bydd yn rhoi bywyd newydd i’r Groves. Mae’n ateb delfrydol i Wrecsam.”

Hanes diweddar The Groves

  • Dim ond at ddibenion addysgol y gellir defnyddio’r safle sy’n eiddo i’r cyngor oherwydd cyfamodau cyfreithiol hanesyddol.
  • Cafodd yr adeilad ei restru gan Lywodraeth Cymru yn 2016 er mwyn ei atal rhag cael ei ddymchwel – gan roi terfyn ar ddyheadau’r cyngor i adeiladu ysgol fodern newydd ar y safle.
  • Yn 2019, mynegodd cwmni gofal iechyd ddiddordeb mewn datblygu cyfleuster hyfforddi meddygol ar safle’r Groves. Cafwyd trafodaethau manwl, ond methodd y cynigion yn y pen draw.
  • Ar yr un pryd, bu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn archwilio opsiynau i ddatblygu cyfleusterau hyfforddi ar hen gaeau chwarae’r ysgol, ond nid oedd y safle yn ddigon mawr.
  • Yn 2023, cyrhaeddodd safle’r Groves restr fer fel lleoliad posibl ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol newydd i Gymru, ond rhoddwyd gorau i’r prosiect yn ddiweddarach gan Lywodraeth Cymru oherwydd diffyg cyllid.
  • Ym mis Mehefin 2026 cytunodd Bwrdd Gweithredol y cyngor i drosglwyddo’r safle i Goleg Cambria – gan ganiatáu iddo ehangu ei ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yn y ddinas.
Rhannu
Erthygl flaenorol Kidsfest Sŵn mawr i chwedlau bach Big noise for little legends Gŵyl gerddoriaeth newydd i blant yn dod i Wrecsam ym mis Awst
Erthygl nesaf YMGYNGHORIAD: Dweud eich dweud ar ysgol arbennig newydd yng Ngwersyllt YMGYNGHORIAD: Dweud eich dweud ar ysgol arbennig newydd yng Ngwersyllt

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English