Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen YMGYNGHORIAD: Dweud eich dweud ar ysgol arbennig newydd yng Ngwersyllt
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > YMGYNGHORIAD: Dweud eich dweud ar ysgol arbennig newydd yng Ngwersyllt
Busnes ac addysg

YMGYNGHORIAD: Dweud eich dweud ar ysgol arbennig newydd yng Ngwersyllt

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 10, 2026 11:52 am
Rhannu
Darllen 3 funud
YMGYNGHORIAD: Dweud eich dweud ar ysgol arbennig newydd yng Ngwersyllt
RHANNU

Mae nifer y plant sydd angen lle mewn ysgol arbennig yn Wrecsam yn cynyddu.

Mae Cyngor Wrecsam yn cynnig sefydlu ysgol arbennig newydd i ddisgyblion 3-11 oed sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl.

Mae’r cynnig hwn yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud trwy godi unrhyw bryderon neu roi adborth cadarnhaol ar y cynlluniau. Bydd sylwadau wedyn yn cael eu hystyried gan fwrdd gweithredol y Cyngor, a fydd yn penderfynu sut i fwrw ymlaen.

Cyn i chi roi eich adborth, edrychwch ar y dogfennau ar dudalen we’r ymgynghoriad – mae’r ddogfen ymgynghori yn nodi’r wybodaeth y bydd angen i chi ei hystyried er mwyn cymryd rhan yn y broses ymgynghori.

Gallwch gael mynediad i’r arolwg ar-lein ar dudalen we Eich Llais.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dechrau ddydd Mawrth 2 Mehefin 2026 ac yn dod i ben ddydd Iau 16 Gorffennaf 2026.

Pe bai’n well gennych siarad â rhywun am y cynnig hwn, rydym yn cynnal digwyddiad galw heibio yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt ar:

Dydd Mawrth, 16 Mehefin, 2026
9:30-11:30am

Rydym hefyd yn cynnal dwy sesiwn rithwir. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ar:

Dydd Iau, 2 Gorffennaf, 2026*
9:30-10am

Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf, 2026*
5-5:30pm

*I ofyn am fynediad i’r sesiwn rithwir, anfonwch e-bost at:  ALNschoolconsultation@wrexham.gov.uk

Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer y sesiwn galw heibio rithwir erbyn dydd Gwener 19 Mehefin 2026 fan bellaf. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i ni anfon dolen a chyfarwyddiadau atoch cyn y sesiwn.

Mae croeso i chi hefyd ofyn unrhyw gwestiynau a rhannu eich barn gyda ni drwy e-bostio ALNschoolconsultation@wrexham.gov.uk.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Yn Wrecsam mae gennym hanes cryf o ddiwallu’r ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sydd gan blant a phobl ifanc. Mae llawer ohonynt yn cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd, ond mae angen lleoliad mwy arbenigol ar nifer sylweddol ohonynt er mwyn diwallu eu hanghenion dysgu a lles. Mae’r cynnig i adeiladu’r ysgol newydd hon yng Ngwersyllt yn dangos sut mae’r cyngor yn bwriadu mynd i’r afael â’r galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig.

“Byddwn i’n gofyn i bawb sydd â diddordeb yn y ddarpariaeth ADY yn Wrecsam a sefydlu’r ysgol hon gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eu barn gyda ni.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, a Dywedodd Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria The Groves: Cyngor Wrecsam yn paratoi i drosglwyddo’r safle i Goleg Cambria
Erthygl nesaf Fly-tipping next to public litter bins Dim esgus am dipio anghyfreithlon yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English