Bydd tua un mewn pedwar o bobl yn profi problem iechyd meddwl eleni ac eto gall y tawelwch fod mor ddrwg â’r broblem iechyd meddwl ei hun.
Rydym eisiau atal hyn rhag digwydd ac unwaith eto byddwn yn cymryd rhan yn y diwrnod Amser Siarad ar 6 Chwefror yn Tŷ Pawb rhwng 11am a 2pm.
Byddwn yn dod â nifer o sefydliadau ynghyd o dan un to fydd yn gallu cynnig cyngor a chyfarwyddyd ar beth i’w wneud, lle i fynd a sut i gael cymorth os ydy problemau iechyd meddwl yn effeithio arnoch chi.
“Amser Siarad – helpu pobl gyda’r rhwystr cyntaf”
Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd iawn siarad am iechyd meddwl sy’n golygu nad ydynt yn gwybod lle na sut i gael cymorth yn aml. Bydd y digwyddiad hwn yn helpu pobl gyda’r rhwystr cyntaf – siarad – dewch draw i siarad gyda’r gweithwyr proffesiynol fydd yn fwy na hapus i wrando, ac yn bwysicach na dim, cynnig cefnogaeth ac arweiniad.
Mae’r digwyddiad Amser Siarad yn cael ei gynnal ddydd Iau, 6 Chwefror rhwng 11am a 2pm yn Tŷ Pawb, ac mae croeso i bawb.
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN