Mae mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yn Wrecsam mewn ffordd wahanol yn dechrau gwneud gwahaniaeth, ac mewn adroddiad craffu sydd ar ddod, bydd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, y Cyng. David Bithell yn adrodd ar y cynnydd ers mis Ebrill, gan gynnwys newid mewn ymddygiad.
Fe fanylodd bod 40 ymchwiliad wedi cael eu cynnal, a arweiniodd at ddirwyon o rhwng £225 a £600 yn cael ei dosbarthu i naw person. Mae saith achos yn y broses o gael eu paratoi ar gyfer y llys, chwe achos wedi’u cyflwyno i’r llys, a deg yn cael eu prosesu, gyda bwriad o ddosbarthu dirwy neu achos llys.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae Teledu Cylch Caeëdig wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio, ac wedi’i ddefnyddio mewn pedair ardal. Bydd yn parhau i gael eid defnyddio ledled y fwrdeistref sirol, wrth i‘n swyddogion gymryd camau pendant yn erbyn troseddwyr.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae tipio anghyfreithlon yn parhau i fod yn un o’r pryderon mwyaf i’n preswylwyr. Nid oes esgus dros ei wneud.
“Mae gennym dair canolfan ailgylchu gwastraff cartref i’w defnyddio, ac rydym yn hysbysu preswylwyr am eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau yn rheolaidd.
“Mae nifer helaeth o breswylwyr yn gyfrifol iawn ac yn gwaredu ar eu gwastraff cartref yn gywir ac yn gyfreithlon, ond mae rhai sy’n parhau i ddifetha ein hamgylchedd gyda’u gwastraff. Byddwn yn cymryd camau llym yn erbyn unrhyw un y byddwn yn eu canfod yn tipio’n anghyfreithlon, gydag un ai Dirwy Cosb Benodedig neu achos llys.
“Rydym yn cefnogi ymgyrch Caru Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus hefyd i sicrhau nad yw ein hamgylchedd yn cael ei ddifetha ymhellach gan dipio anghyfreithlon, taflu sbwriel neu gŵn yn baeddu.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL