Er bod y rhan fwyaf o fusnesau lleol a lletygarwch wedi cau ar hyn o bryd, mae ein tîm Twristiaeth yn barod i’w cefnogi pan maent yn dychwelyd ac yn ailagor eu drysau i’w cwsmeriaid.
Maent yn gofyn i bawb gofrestru rŵan am e-newyddlen newydd a fydd yn cael ei chyhoeddi bob pythefnos a bydd yn amlygu newyddion o ganol y dref, datblygiadau o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Telford, busnesau twristiaeth lleol syniadau am ddiwrnodau allan ledled y sir a chefnogaeth busnes ar gyfer y diwydiant lletygarwch, ymysg pethau eraill.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Gallwch gofrestru ar gyfer y newyddlen yma: https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_48
A pheidiwch ag anghofio fod gennym Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr newydd ar Stryt Caer yn y dref. Er ei bod ar gau ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau, mae ein staff cyfeillgar yn parhau i fod ar gael i ateb eich cwestiynau, rhoi syniadau i chi ar bethau lleol i’w gwneud fel rhan o’ch ymarfer corff dyddiol neu eich cyfeirio at unrhyw gefnogaeth i fusnesau sydd ar gael.
Gallwch anfon neges e-bost at y tîm ar tourism@wrexham.gov.uk – ac mae eu negeseuon Facebook yn cael eu monitro rhwng 10-2pm bob dydd (Llun-Sadwrn).
CANFOD Y FFEITHIAU