Yn rhan o’r gwaith o ailddatblygu canol y ddinas, rydym ni’n mynd i blannu 16 o goed mawr ar Allt y Dref, Stryt Yorke a’r Stryd Fawr.
I ddarparu ar gyfer y rhain yn y palmentydd newydd arfaethedig yn yr ardaloedd hyn, bydd yn rhaid i ni dynnu’r coed presennol ar Stryt Yorke ac Allt y Dref. Bydd cyfanswm o 7 coeden yn cael eu symud.
Mae’r saith coeden yn ifanc ac yn gymysgedd o rywogaethau wedi’u plannu yn rhan o gynllun anffurfiol, ad hoc. Gwneir pob ymdrech i drawsblannu gwreiddiau’r coed hyn i leoliadau eraill sy’n fwy addas. Bydd y coed newydd yn rhywogaethau mwy addas ac yn cael eu plannu i sicrhau bod canol y dref yn edrych yn fwy ffurfiol ac unffurf; sy’n fwy cydnaws â’r gwelliannau dymunol i’r Stryd Fawr a Stryt Yorke.
Bydd y coed yn cael eu plannu mewn tyllau plannu strwythuredig sy’n cynnal pwysau a fydd yn sicrhau amgylchedd gwreiddio gwell ac sy’n arwain at ddatblygiad gwreiddiau iach heb unrhyw berygl o aflonyddu’r tir yn y dyfodol. Bydd y coed newydd rhwng 5 a 7 metr o uchder pan fyddan nhw’n cael eu plannu.
O ganlyniad i’r tymor nythu byddwn ni’n symud y coed i gyd cyn 1 Mawrth felly efallai y bydd bwlch rhwng hyn a phryd y bydd y gwaith ar y palmentydd yn dechrau.
Bydd chwe Derwen sy’n tyfu’n unionsyth yn cael eu plannu ar Stryt Yorke a bydd y coed sy’n cael eu plannu ar y Stryd Fawr ac Allt y Dref yn cynnwys y Gerddinen Wen, Oestrwydden, Llwyfen, Coeden Ginco, Mêl-ddraenen a’r Dderwen Fytholwyrdd.
Dywedodd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Nid yw symud coed yn rhywbeth yr ydym ni’n ei wneud ar chwarae bach ond nid yw’r coed presennol yn ffynnu. Mae’r palmant newydd arfaethedig yn gyfle delfrydol i osod coed newydd yn eu lle sydd wedi’u plannu mewn ffordd sy’n addas i’w hamgylchedd er mwyn caniatáu iddyn nhw ffynnu mewn amgylchedd trefol.”
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dweud eich dweud ar ein gwasanaethau ar-lein