Mae trenau newydd sbon a fydd yn trawsnewid ac yn gwella cludiant ar draws Cymru a’r gororau wedi cael eu dadorchuddio gan Trafnidiaeth Cymru.
Cafodd y trên Dosbarth 197 cyntaf gyda’r tag ‘Gwnaed yng Nghymru’ ei ddadorchuddio i’r cyhoedd yn ddiweddar, gan gynnig blas ar yr hyn sydd i ddod i gwsmeriaid yn y misoedd nesaf.
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwario £800miliwn ar y trenau newydd ar draws eu rhwydwaith a’r Dosbarth 197 fydd y cyntaf o stoc newydd sbon i gael ei weithredu yng ngogledd Cymru cyn diwedd y flwyddyn.
Gan ddarparu mwy o gapasiti, llai o allyriadau ac yn fwy cyfforddus, bydd y trenau yma’n galluogi Trafnidiaeth Cymru i redeg gwasanaethau cyflymach a mwy aml ar hyd llwybrau pwysig i leoliadau megis Caergybi, Abergwaun a Lerpwl.
Gyda seddi lledr, systemau aerdymheru modern, drysau lletach a sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid, bydd y trenau newydd yn trawsnewid y profiad i gwsmeriaid. Maent wedi’u gosod â mannau gwefru electronig a nodweddion anableddau i bobl sydd â symudedd cyfyngedig.
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Dirprwy Arweinydd gyda chyfrifoldeb dros Gludiant Strategol, “Roeddwn i’n croesawu’r cyfle i weld â’m llygaid fy hun y trenau yma.
“Mae’n wych gweld cymaint o fuddsoddiad yng Nghymru a gweld cymaint o ymrwymiad i uwchraddio gwasanaethau i gwsmeriaid ar draws Cymru a’r gororau gan Trafnidiaeth Cymru.
“’Dwi’n siŵr y bydd teithwyr yn gwerthfawrogi’r gwelliannau pan fyddant yn weithredol yn yr ardal yn nes ymlaen eleni.”
Dywedodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithredwyr Gludiant Trafnidiaeth Cymru: “Yn Nhrafnidiaeth Cymru rydym ni’n symud ymlaen yn gyson gyda’n cynlluniau trawsnewidiol i wella cludiant cyhoeddus i bobl Cymru a’r gororau.
“Bydd y Dosbarth 197 sydd i’w gweld yng ngorsaf reilffordd Caer heddiw yn rhan bwysig o drawsnewid rhwydwaith Cymru a’r Gororau, a phan fyddant yn weithredol, byddant yn galluogi i ni redeg mwy o wasanaethau a chario mwy o gwsmeriaid yn fwy cyfforddus.
“Mae wedi cymryd pedair blynedd i adeiladu ein trenau newydd, ac mae cwsmeriaid a chydweithwyr yn gyffrous iawn i groesawu teithwyr arnynt yn nes ymlaen eleni.
“Mae hi hefyd yn bwysig cydnabod bod y trenau yma wedi cael eu gwneud yng Nghymru yn ffatri CAF yng Nghasnewydd, a darparwyd swyddi a chefnogwyd yr economi leol tra’n eu hadeiladu.
Fe fydd y trenau Dosbarth 197 yn gweithredu ar draws Cymru a’r gororau yn cynnwys llinell Caerdydd-Caergybi a Lein y Gororau (Wrecsam-Bidston).
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR