Mae cynlluniau i ddatblygu gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig a fyddai’n cael ei rannu gyda Chyngor Sir y Fflint i’w trafod ddydd Mawrth nesaf pan fydd ein Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod i drafod y dewisiadau sydd ar gael.
Mae swyddogion o Gynghorau Sir y Fflint a Wrecsam wedi edrych ar y buddion, ariannol a gweithredol, o rannu ystafell reoli Teledu Cylch Caeëdig sy’n gweithredu ar blatfform digidol.
Mae’r cynlluniau yn nodi y byddai darluniau a data o Gyngor Sir y Fflint yn cael eu monitro yn yr ystafell reoli bresennol yn Wrecsam.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Mae’r adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth er mwyn i’r cynlluniau fynd yn eu blaen a symud tuag at Gytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng y ddau awdurdod.
Mae’r adroddiad – i’w gyflwyno gan y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol – yn amlinellu ymdrechion blaenorol i ddod â gweithrediadau Teledu Cylch Caeëdig rhanbarthol ynghyd ond heb lwyddiant, yn bennaf o ganlyniad i drefniadau cytundebol oedd mewn grym ar y pryd.
Ond yn fwy diweddar mae’r dewis o greu partneriaeth gyda Sir y Fflint wedi dod yn ddewis hyfyw a gallai olygu fod y ddau awdurdod yn gwneud arbedion, gydag un tîm i weithredu’r Teledu Cylch Caeëdig.
Bydd rhaid i’r cynlluniau hefyd gael eu cymeradwyo gan Gabinet Sir y Fflint, ac os rhoir cymeradwyaeth gan y ddwy ochr bydd y cynigion yn mynd yn ei blaen ar gyfer gwasanaethau a rennir a gaiff eu cynnal yn Wrecsam gyda chostau yn cael eu hadennill gan Gyngor Sir y Fflint.
Bydd y cynigion yn cael eu trafod ddydd Mawrth, Mai 14, pan fydd y Bwrdd Gweithredol yn cwrdd ar gyfer ei gyfarfod misol.
Bydd y cyfarfod yn cael ei weddarlledu’n fyw – cliciwch yma i weld y cyfarfod byw.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU