Pan symudodd Teigan i lety â chefnogaeth yn 18 oed, nid oedd yn ymwybodol o’r effaith y byddai’n ei gael ar ei bywyd. Darllenwch ymlaen i weld pa wersi y bu iddi eu dysgu ar hyd y ffordd a’r cysylltiad oesol sydd rhyngddi hi a’i gwesteiwr llety â chefnogaeth, Cath.
Mae llety â chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-21 oed, sy’n gadael gofal ac mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae ar gael i baratoi pobl ifanc ar gyfer y dyfodol a’u cefnogi gyda chyflawni eu nodau.
Wrth adael gofal, cafodd Teigan annibyniaeth newydd, ond roedd yn cael trafferth rheoli ei harian. Bu i Cath, ei gwesteiwr llety â chefnogaeth, gamu i’r adwy i’w rhoi ar ben ffordd. Dysgodd Teigan i flaenoriaethu biliau, gan sicrhau eu bod yn cael eu talu trwy ddebyd uniongyrchol yn syth ar ôl iddi dderbyn ei hincwm. Bu i’r sefydlogrwydd ariannol hwn newid popeth, oherwydd ei hamser gyda Cath.
Yn ogystal ag arweiniad ariannol, cynigiodd Cath gefnogaeth emosiynol iddi. Roedd hi ar gael bob amser ar ddiwrnodau heriol, am baned o de a sgwrs.
Heb ei chefnogaeth, cred Teigan na fyddai o bosibl wedi gallu cwblhau ei chyfnod yn y coleg yn llwyddiannus, gan fod cefnogaeth gadarn Cath wedi’i hysgogi i fynd i mewn ar ddiwrnodau pan nad oedd ganddi lawer o gymhelliant. Hefyd, heb ei chyngor ariannol, gallai fod yn ddigartref.
Felly… pa wersi y bu i Teigan eu dysgu yn ystod ei chyfnod mewn llety â chefnogaeth?
- Cyfrifoldeb ariannol: dysgodd Teigan bwysigrwydd rhoi blaenoriaeth i filiau cyn prynu eitemau roedd eu heisiau, ond nad oedd eu hangen arni.
- Annibyniaeth: daeth byw ar ei phen ei hun yn llai arswydus, diolch i’w hamser yn y llety â chefnogaeth
- Cynllunio a choginio prydau: bu iddi feithrin sgiliau coginio, meistroli’r grefft o goginio a pharatoi prydau i sicrhau bod y rhewgell yn llawn
- Trefn: daeth sefydlu trefn yn rhywbeth cadarnhaol yn ei bywyd, gan ei helpu i fod yn drefnus
- Sgiliau cartref: bu i Teigan feithrin dealltwriaeth ymarferol, gan gynnwys sut i gadw lle byw yn lân a thaclus
- Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl: bu i lety â chefnogaeth ddysgu pwysigrwydd ymestyn allan pan fyddai’n cael trafferth â’i hemosiynau
Meddai Teigan: “Pe na bawn wedi cael lleoliad llety â chefnogaeth gyda Cath, ni fyddwn ble rwyf rŵan.” Dw i’n dal i siarad hefo Cath ar y ffôn ac mae’n braf gwybod, er nad ydw i’n byw hefo hi erbyn hyn, y gallaf bob amser alw heibio am baned, sgwrs a rhywfaint o gyngor. Ond, mi ydw i’n methu Cath, mae’n teimlo’n rhyfedd iawn hebddi weithiau, ond gallaf fyw ar fy mhen fy hun bellach a dw i’n gwybod y gallaf ei ffonio os bydd angen.”
Wrth siarad am ei chyfnod gyda Teigan, dywedodd Cath: “Mae’n wych gweld cystal hwyl mae Teigan yn ei gael. Roedd hi’n siwrne rwystredig ar brydiau, ond yn sicr mae wedi bod yn werth chweil o ystyried cystal mae hi’n llwyddo i fyw’n annibynnol nawr.”
Mae stori Teigan yn brawf o bŵer trawsnewidiol llety â chefnogaeth. Nid yn unig ei fod wedi cynnig lle diogel iddi yn ystod cyfnod pwysig yn ei bywyd, bu iddo hefyd roi’r sgiliau a’r gwytnwch roedd eu hangen i fyw’n annibynnol. Mae’r cysylltiad gyda’i gwesteiwr, Cath, yn dangos yr effaith gadarnhaol barhaus y gall lleoliadau o’r fath eu cael.
Mae siwrnai Teigan yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sy’n wynebu newidiadau tebyg, gan ddangos y potensial ar gyfer twf, annibyniaeth a llwyddiant.