Ni fydd rhai o adeiladau swyddfeydd y ddinas ar agor i’r cyhoedd, ond byddwn yn parhau i weithredu gwasanaethau hanfodol.
Bydd y rhan fwyaf o adeiladau swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar gau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – er y bydd y gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu gweithredu.
Mae llawer o gynghorau ar draws Cymru a gweddill y DU yn cwtogi gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig, oherwydd y galw isel a’r gost o gadw adeiladau ar agor.
Eleni, bydd y Cyngor yn cau ei swyddfeydd ar Stryt y Lampint, Ffordd Rhuthun ac Adeiladau’r Goron tua hanner dydd, ddydd Gwener 22 Rhagfyr. Bydd yr adeiladau ar gau tan ddydd Mawrth, 2 Ionawr.
Trwy gau’r adeiladau hyn, bydd y Cyngor yn gwneud rhywfaint o arbedion effeithlonrwydd o ran costau nwy a thrydan.
Bydd ein gwasanaethau hanfodol yn parhau i weithredu. Mae’r rhain yn cynnwys timau ymateb brys priffyrdd a’r amgylchedd, cymorth ac atgyweirio tai a gwasanaethau gofal cymdeithasol penodol – er y bydd rhai gwasanaethau’n cael eu cwtogi.
Tai
Bydd yr holl swyddfeydd ystadau tai ar gau o 12pm ddydd Gwener 22 Rhagfyr tan ddydd Mawrth 2 Ionawr.
Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion ar y rhifau ffôn canlynol
- Atgyweirio Tai (24 awr) 01978 298993.
Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd e-bostio wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk
- Digartrefedd
Gallwch ffonio ein tîm dewisiadau Tai (24 awr) ar 01978 292947
Sut i roi gwybod am faterion
Bydd Galw Wrecsam yn cau ddydd Gwener 22 Rhagfyr am 12pm ac yn ailagor ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.
Teleffoni a Chanolfan Gyswllt:
Dydd Gwener 22 Rhagfyr – cau am 12pm
Dydd Llun 25 Rhagfyr – ar gau
Dydd Mawrth 26 Rhagfyr – ar gau
Dydd Mercher 27 Rhagfyr 9am – 4pm gyda gwasanaeth cyfyngedig
Dydd Iau 28 Rhagfyr 9am – 4pm gyda gwasanaeth cyfyngedig
Dydd Gwener 29 Rhagfyr 9am – 4pm gyda gwasanaeth cyfyngedig
Defnyddiwch ein gwasanaethau ar-lein trwy www.wrecsam.gov.uk 24/7
Gofal Cymdeithasol
Bydd Gofal Cymdeithasol yn darparu gwasanaeth hanfodol mewn argyfwng yn unig.
Rhwng 8.30am a 5pm, ar gyfer materion brys mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol i Blant, cysylltwch â’r Un Pwynt Mynediad ar 01978 292039.
Ar gyfer materion brys (yn cynnwys rhyddhau o’r ysbyty) mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ffoniwch 01978 292066 rhwng 9am a 4pm.
Y tu allan i oriau swyddfa, gallwch gysylltu â’r Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng ar 03450 533116.
Bydd yr holl wasanaethau yn ailddechrau ar 2 Ionawr 2024.
Gwasanaethau Cofrestru
Bydd Neuadd y Dref ar agor ar gyfer cofrestru marwolaethau YN UNIG ac NI FYDD y gwasanaeth copïau o dystysgrifau ar gael trwy’r wefan.
Casgliadau Gwastraff
Bydd biniau’n cael eu casglu dros gyfnod y Nadolig, er y bydd rhywfaint o newidiadau i amserlenni. Gwiriwch pa ddiwrnod y cesglir eich biniau ar ein gwefan
Gwiriwch pa ddiwrnod y cesglir eich biniau – FyNghyfrif (wrecsam.gov.uk)
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Bydd yr holl ganolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar agor bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig. Caiff y safleoedd eu rheoli gan FCC Environment.
Ewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel.
Tŷ Pawb
22 Rhagfyr 9am – 8 pm, yr Oriel ar agor rhwng 10am – 4pm
23 Rhagfyr 9am – 7pm, yr Oriel ar agor rhwng 10am – 4pm
24, 25, 26 a 27 Rhagfyr – Ar Gau
28, 29 a 30 Rhagfyr 11am – 4pm, yr Oriel ar agor rhwng 11am – 4pm
31 Rhagfyr – 1 Ionawr Ar Gau
2 Ionawr – Ar Agor fel Arfer
Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr
22 Rhagfyr – 9am – 8pm
23 Rhagfyr – 9am – 5pm
24, 25, 26 a 27 Rhagfyr – Ar Gau
28 Rhagfyr – 10am – 4pm
29 Rhagfyr – 10am – 4pm
30 Rhagfyr – 10 am – 4pm
2 Rhagfyr – Ar Agor fel Arfer 9am – 5pm
Llyfrgelloedd
22 Rhagfyr- Pob llyfrgell ar agor oriau arferol.
23 Rhagfyr – Pob llyfrgell ar gau.
27, 28 a 29 Rhagfyr – Llyfrgell Wrecsam ar agor rhwng 9am – 1pm
2 Ionawr – Pob llyfrgell ar agor yn llawn.