Llun gan Tim Rooney/Image by Tim Rooney

Nawr yn ei 10fed flwyddyn, bydd FOCUS Wales yn cael ei chynnal yn Wrecsam rhwng 7fed a 9fed o Hydref

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Sefydlwyd y cwmni FOCUS Wales fel sefydliad di-elw i ddarparu llwyfan blynyddol i arddangos cerddoriaeth newydd ar gyfer diwydiant cerddoriaeth Cymru, ac ers hynny mae wedi cael ei enwebu ac ennill sawl gwobr fawreddog.

Dros y penwythnos, bydd Wrecsam yn croesawu tros 250 o fandiau, yn chwarae ar dros 20 llwyfannau, i fwy na 15,000 o bobl sy’n ymweld â’r ŵyl

Mae’r digwyddiad hefyd yn dal cynadleddau a fu’n cynnwys pobl sydd ar yr ochr mewnol o’r diwydiant miwsig a hefyd mae’n rhoi platfform i’r celfyddydau a ffilm.

I roi cydnabyddiaeth i gyfraniad sylweddol ac ystyrlon y digwyddiad i’r gymuned, a gan ei fod wedi dod â balchder dinesig i Wrecsam, dyfarnwyd cydnabyddiaeth Ddinesig Wrecsam i drefnwyr yr ŵyl yn y cyngor llawn (dydd Mercher 29ain Medi).

Wrth ddyfarnu’r gydnabyddiaeth, dywedodd Maer Wrecsam, Cyng. Ronnie Prince: “Mae’r digwyddiad hwn yn arddangosfa wych i dalent greadigol a dalent newydd. Mae’r digwyddiad wedi tyfu’n llawer ers iddo lansio dros ddegawd yn ôl, ac wrth wneud hyn, wedi rhoi platfform rhyngwladol ffantastig i gerddorion, a’r dref.”Mae llwyddiant y digwyddiad yn destament i waith called Andy, Neal a Sarah, a hefyd y niferoedd mawr o wirfoddolwyr sy’n helpu i’r digwyddiad i redeg yn esmwyth.”

Dywedodd Neal Thompson, un o gyd sefydlwyr FOCUS Wales: “ Ar ran bawb o ddim FOCUS Wales dwi isio deud mae’n fraint ac rydym yn hapus ac yn ddiolchgar wrth dderbyn y gydnabyddiaeth ddinesig o Gyngor Wrecsam.

“Mae Cyngor Wrecsam wastad wedi bod yn gefnogol ac yng nghymwynasgar.

“Mae ‘di fod yn amser anodd i bawb yn y diwydiant cerddoriaeth byw, felly rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn dod yn ôl ati, bydda fe’n fandiau, yr artistiaid, pobl yn gweithio y tu ôl i’r llenni, ein grŵp mawr o wirfoddolwyr a hefyd y miloedd o bobl sy’n frwdfrydig dros gerddoriaeth byw a fu’n ymweld â Wrecsam dros yr ŵyl.

“Diolch eto, ac edrychwn ymlaen at lenwi canol y dref gyda sŵn gerddoriaeth fyw unwaith eto!

“Diolch”

I wylio’r fidio ewch at 2munud 20eiliad : https://wrexham.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/604359

Mae ticedi dal ar gael I FOCUS Wales. Fedrwch ei brynu yma

Am mwy o fanlylio ar y digwyddiadau flwyddyn yma

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GO