Mae siwrnai tair awr o Wrecsam i Lundain gam yn agosach heddiw yn dilyn cyfarfod cadarnhaol iawn rhwng Cyngor Wrecsam a Wrexham, Shropshire and Midlands Railway Company Ltd, sy’n cynnig Gwasanaeth Mynediad Agored i’ch cludo i ganol Llundain mewn tair awr.
Mynychodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard a’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David A Bithell y cyfarfod a chlywed y cynigion ar gyfer y gwasanaeth sydd wedi’u cyflwyno i Brif Weithredwr Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, John Larkinson.
Yn dilyn y cyfarfod, mae llythyr gan y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd â chyfrifoldeb ar gyfer cludiant strategol, yn rhoi cefnogaeth lawn i’r cynlluniau wedi ei anfon at Brif Weithredwr Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, David Larkinson. Roedd y llythyr yn amlinellu ers y gwasanaeth mynediad agored diwethaf yn Wrecsam, nid oedd y gwasanaethau a gynigwyd yn addas i’r diben gyda dibynadwyedd gwael, achosion o ganslo’n aml a lefel is na’r safon o wasanaethau i deithwyr.
Roedd y llythyr yn annog y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd i gefnogi’r cynigion cyn gynted â bo hynny’n ymarferol er mwyn galluogi preswylwyr ac ymwelwyr i Wrecsam ac ardal ehangach Gogledd Cymru i gael cynnig cludiant cyhoeddus gwirioneddol a fydd yn bodloni’r galw a dyheadau presennol.
“Mae preswylwyr ac ymwelwyr i Wrecsam yn haeddu gwasanaeth rheilffordd o ansawdd uchel”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, “Rwy’n gwbl gefnogol o’r cais hwn gan WSMR a fydd yn gweld siwrneiau rheolaidd o Wrecsam i Euston Llundain.
“Mae’r gwasanaeth presennol yn annigonol ac o ystyried y diddordeb cenedlaethol a rhyngwladol yn Wrecsam, mae gwasanaeth cynaliadwy a dibynadwy yn hanfodol. Rwy’n gobeithio bydd y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn edrych ar y cais hwn yn gadarnhaol.
Mae Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Mark Pritchard a fynychodd y cyfarfod diweddar, yn cefnogi’r cais a dywedodd, “Mae preswylwyr ac ymwelwyr i Wrecsam yn haeddu gwasanaeth rheilffordd o ansawdd uchel a fydd yn gwasanaethu Wrecsam ac ardal ehangach Gogledd Cymru.
“Hoffwn ddiolch i WSMR am eu hamser gwerthfawr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar eu cynigion ac rwy’n gwbl gefnogol o’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”
Os fydd y cais yn llwyddiannus, bydd y gwasanaeth newydd yn creu 50 o swyddi a dylai’r trenau cyntaf ddechrau yn haf 2025.
Mae’r cais ar gyfer gwasanaeth o bump o drenau bob dydd ymhob cyfeiriad, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gyda phedwar yn teithio ymhob cyfeiriad ar ddyddiau Sul.
Bydd y trenau’n stopio yng Ngobowen, Amwythig, Telford Canolog, Wolverhampton, Darlaston, Walsall, Coleshill Parkway, Nuneaton a Milton Keynes ar eu siwrnai rhwng Wrecsam Cyffredinol ac Euston Llundain.
Dywedodd Darren Horley, Cyfarwyddwr Symudedd WSMR yn Alstom, “Rydym yn falch o dderbyn cefnogaeth bellach gan Gyngor Wrecsam ar gyfer ein gwasanaeth rheilffordd arfaethedig rhwng Gogledd Cymru a Llundain. Mae ein cynnig wedi’i ddylunio i leihau amser teithio rhwng Wrecsam a Phrif Ddinas Lloegr, a gwella profiad i deithwyr gyda gwasanaeth dibynadwy ac o ansawdd uchel.
“Mae’r prosiect hwn hefyd yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn cysylltedd rhwng Gogledd Cymru a Lloegr. Rydym yn gyffrous am yr effaith gadarnhaol bydd hyn yn ei gael ar yr economi ar hyd y llwybr ac edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan i helpu Wrecsam ffynnu ymhellach.
“Gwerthfawrogwn y gefnogaeth gan arweinwyr y Cyngor lleol – gan gynnwys y Cynghorwyr Mark Pritchard a David A Bithell – ac wedi ymrwymo i wneud y weledigaeth yn realiti o’r flwyddyn nesaf ymlaen.”
Llun gan WSMR
Y Llwybr Arfaethedig
- Wrecsam
- Gobowen
- Amwythig
- Wellington
- Telford
- Wolverhampton
- Darlaston
- Walsall
- Coleshill
- Nuneaton
- Milton Keynes
- Euston
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch