Mae un perchennog cŵn anghyfrifol wedi darganfod ei bod wedi costio £1,417 iddi am beidio â chodi baw cŵn yn dilyn achos diweddar yn Llys Ynadon Wrecsam.
Gadawodd Ms Frances Woolf i ddau o’i chŵn faeddu ar gae pêl-droed ger Dyfrbont Pontcysyllte, rhwng Trefor a Froncysyllte. Gwelodd cynghorydd lleol y digwyddiad a rhoddodd wybod am y mater, gan anfon lluniau a rhif cofrestru’r car at ein Tîm Gorfodi.
Cafodd Ms Woolf ddirwy o £150 a’i gorchymyn i dalu tâl dioddefwr o £60 a £1,207 o gostau i’r Cyngor.
Baw cŵn – “annymunol a gwrthgymdeithasol”
Dywedodd y Cyng Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, sydd â chyfrifoldeb dros Orfodi yn y fwrdeistref sirol, “Yn sicr, mae caniatáu i gŵn faeddu heb lanhau ar eu holau yn un o’r gweithredoedd mwyaf annymunol a gwrthgymdeithasol mae preswylwyr yn cwyno amdanynt. Rwyf yn ddiolchgar iawn i’r cynghorydd a roddodd wybod am hyn, i’r swyddogion aeth â’r achos yn ei flaen ac i’r llysoedd am ddyfarnu o blaid y Cyngor.
“Rwyf yn gobeithio y bydd y ddirwy a’r costau hyn yn rhybudd ac yn rhwystr i berchnogion cŵn anghyfrifol yn y dyfodol a’u bod yn cymryd sylw ac yn glanhau ar ôl eu cŵn, gan na fyddwn yn oedi cyn erlyn y rhai sy’n euog.” Mae peidio â chodi baw cŵn yn orfodadwy dan y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, sy’n cynnwys y fwrdeistref sirol gyfan.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch