Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Troseddau Baw Cŵn yn costio bron i £1,500 i breswylydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Troseddau Baw Cŵn yn costio bron i £1,500 i breswylydd
Y cyngorArall

Troseddau Baw Cŵn yn costio bron i £1,500 i breswylydd

Diweddarwyd diwethaf: October 30, 2023 2:59 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Dog
RHANNU

Mae un perchennog cŵn anghyfrifol wedi darganfod ei bod wedi costio £1,417 iddi am beidio â chodi baw cŵn yn dilyn achos diweddar yn Llys Ynadon Wrecsam.

Gadawodd Ms Frances Woolf i ddau o’i chŵn faeddu ar gae pêl-droed ger Dyfrbont Pontcysyllte, rhwng Trefor a Froncysyllte. Gwelodd cynghorydd lleol y digwyddiad a rhoddodd wybod am y mater, gan anfon lluniau a rhif cofrestru’r car at ein Tîm Gorfodi.

Cafodd Ms Woolf ddirwy o £150 a’i gorchymyn i dalu tâl dioddefwr o £60 a £1,207 o gostau i’r Cyngor.

Baw cŵn – “annymunol a gwrthgymdeithasol”

Dywedodd y Cyng Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, sydd â chyfrifoldeb dros Orfodi yn y fwrdeistref sirol, “Yn sicr, mae caniatáu i gŵn faeddu heb lanhau ar eu holau yn un o’r gweithredoedd mwyaf annymunol a gwrthgymdeithasol mae preswylwyr yn cwyno amdanynt. Rwyf yn ddiolchgar iawn i’r cynghorydd a roddodd wybod am hyn, i’r swyddogion aeth â’r achos yn ei flaen ac i’r llysoedd am ddyfarnu o blaid y Cyngor. 

“Rwyf yn gobeithio y bydd y ddirwy a’r costau hyn yn rhybudd ac yn rhwystr i berchnogion cŵn anghyfrifol yn y dyfodol a’u bod yn cymryd sylw ac yn glanhau ar ôl eu cŵn, gan na fyddwn yn oedi cyn erlyn y rhai sy’n euog.” Mae peidio â chodi baw cŵn yn orfodadwy dan y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, sy’n cynnwys y fwrdeistref sirol gyfan.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Estyn Y Cyngor a Unite yn dod i gytundeb i roi diwedd ar y streiciau yn Wrecsam
Erthygl nesaf Tree Helpwch i blannu coed ar Gae Chwarae Bradle

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Library
Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn
Y cyngor Pobl a lle
November 5, 2026
Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026
Pobl a lle
November 5, 2026
Walking
Ewch yn Lleol ym mis Tachwedd
Pobl a lle Arall
November 5, 2026
Maes Parcio
🚗🚌 Wrecsam v Wolves – beth am Barcio a Theithio? ⚽
Pobl a lle Digwyddiadau
November 5, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Y cyngor

Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau

November 4, 2026
bys deulawr
Busnes ac addysgArall

Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol

November 3, 2026
Armed Forces
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄

October 28, 2026
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 

October 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English