Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru ymweliad â 9 siop ddiodydd drwyddedig a thafarndai gyda chadéts ifanc yr heddlu i brynu alcohol.
Rydym yn falch o adrodd, y gofynnwyd i bob cadét ddangos cerdyn adnabod, a dylid cymeradwyo bob lleoliad ar eu gwyliadwraeth.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae diogelu plant rhag niwed yn flaenoriaeth i Wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yr Heddlu. Mae Safonau Masnach yn gweithio’n agos gyda’i bartneriaid, yn cynnwys y Gwasanaeth Trwyddedu a Heddlu Gogledd Cymru i gyfyngu mynediad at alcohol ar ran pobl ifanc dan 18 oed.
Dywedodd Roger Mapleson, Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Canlyniad gwych arall ar gyfer trwyddedai, ac mae’n galonogol gwybod bod y byddai pobl ifanc yn wynebu anawsterau wrth brynu alcohol yn unrhyw un o’r safleoedd a ymwelwyd.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH