Mae dau ddiwrnod plannu coed ar y gweill ar gyfer dau safle arall yn Wrecsam.
- Dydd Sadwrn, 4 Mawrth ym Clos Lincoln
- Dydd Sadwrn, 18 Mawrth yn Llwyn Stockwell
Cynhelir y ddau ddigwyddiad rhwng 10am a 3pm.
Mae plannu coed yn weithgaredd addas i bobl o bob oed, felly ymunwch am sesiwn lawn hwyl i’r teulu yn plannu coed i sicrhau dyfodol mwy gwyrdd. Sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad cynnes, esgidiau glaw a menig.
Darperir y coed drwy gynllun ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’ Llywodraeth Cymru sy’n anelu at ddosbarthu coeden am ddim i bob aelwyd yng Nghymru. Y nod yw dosbarthu 295,000 o goed. Caiff y coed eu dosbarthu gan 50 o ganolfannau cymunedol o amgylch Cymru.
Ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi le i blannu coeden, gan y bydd yr opsiwn ‘Plannu Coeden i Mi’ dan y cynllun Fy Nghoeden, Ein Coedwig yn eich galluogi i gael coeden wedi’i phlannu ar eich rhan ac mae gennym safleoedd dynodedig ar draws Wrecsam i blannu’r coed hyn.
Mae nifer o blant ac oedolion o ysgolion a chymunedau lleol eisoes wedi helpu i blannu dros 3000 o goed ffrwythau a choed llydanddail brodorol yn ac o amgylch Parc Acton, Parc Pry’ Copyn ac Ystâd Llwyn Onn.
Rydym hefyd yn gweithio gydag ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol, ac os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at woodlandpledge@wrexham.gov.uk
Gallwch hefyd helpu i ddiogelu coed a choetiroedd yn Wrecsam drwy Addewid Coetir Wrecsam ar ein gwefan.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD