Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Dementia
Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!
Digwyddiadau
Voices make change
11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid
Pobl a lle
Road
Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Pobl a lle
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Digwyddiadau

Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!

Diweddarwyd diwethaf: 2026/02/11 at 4:57 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
RHANNU

Bydd Tŷ Pawb yn cynnal tridiau o gerddoriaeth fyw a gweithgareddau teuluol AM DDIM ym mis Chwefror eleni i ddathlu Dydd Miwsig Cymru.

Cynnwys
Dydd Iau 12fed ChwefrorCyfansoddi PerthynDrysau: 6.30pmDydd Gwener 13eg ChwefrorCERDDORIAETH FYW – gyda CandelasDrysau: 5.30pmCWPAN FA YN FYW: Wrecsam v Ipswich7.30pmDydd Sadwrn Chwefror 14egDydd Miwisg Cymru / Gwyl Dyfodol hefo FOCUS WalesDathliad o iaith a diwylliant Cymru y gall pawb ei fwynhau!

Wedi’i sefydlu gan y cyflwynydd radio Huw Stephens, mae Dydd Miwsig Cymru yn ddathliad cenedlaethol blynyddol o fyd bywiog cerddoriaeth Gymraeg.

Bob mis Chwefror, cynhelir gigs a digwyddiadau arbennig ledled y wlad, gan arddangos cerddoriaeth Gymreig o bob genre.

Digwyddiad Dydd Miwsig Cymru eleni yn Wrecsam fydd y mwyaf erioed i Tŷ Pawb ei gynnal!

Dyma’r rhaglen lawn:

Dydd Iau 12fed Chwefror

Cyfansoddi Perthyn
Drysau: 6.30pm

Perfformiad cerddoriaeth fyw gyda Yasmine Latkowski (Panedeni), Ayoub Boukhalfa (Côr One World Oasis) a SERA, yn archwilio cartref a pherthyn trwy draddodiadau Arabaidd a Chymreig.

Byddwch yn clywed offerynwyr arbenigol o draddodiadau Arabaidd a Chymreig, harmonïau lleisiol cyfoethog, rhythm, ac adrodd straeon — ac yn cael cipolwg ar yr hanesion, y synau a’r teithiau personol y tu ôl i’r gerddoriaeth.

Bar ac ardal fwyd ar agor!

Mae’r digwyddiad am ddim i fynychu ond cynghorir i archebu i warantu sedd –

Archebu ar eventbrite

Dydd Gwener 13eg Chwefror

CERDDORIAETH FYW – gyda Candelas
Drysau: 5.30pm

Mae’r gig arbennig hwn, sy’n addas i deuluoedd, yn cynnwys un o fandiau roc gorau Gogledd Cymru, wedi’i drefnu gan Menter Iaith, gyda chefnogaeth gan grŵp ‘Y Sîn ar y Ffin’ Ysgol Morgan Llwyd.

Mae ‘Y Sîn ar y Ffin’ yn brosiect Menter Iaith, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Wrecsam, gyda’r nod o gyflwyno cerddoriaeth Gymreig i blant yn ardal Wrecsam, a rhoi cyfle iddynt weld rhai o fandiau gorau’r wlad.

Mae gan Candelas ychydig o gefnogwyr yn Wrecsam eisoes, ar ôl cael llwyddiant ysgubol yn ardal gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ddiweddar!

Mae hwn yn gig sy’n addas i deuluoedd, ond mae croeso i bob oed!

Bydd y bar a’r ardal fwyd ar agor.

Nid oes angen archebu – dim ond troi fyny!

CWPAN FA YN FYW: Wrecsam v Ipswich
7.30pm

Yn syth ar ôl gig Candelas nos Wener, byddwn yn tynnu’r sgrin fawr i lawr fel y gallwch chi fwynhau gêm Cwpan FA Wrecsam, a ddisgwylir yn eiddgar, yn FYW yma yn Nhŷ Pawb!

Neu os ydych chi’n chwilio am fwy o gerddoriaeth, ewch draw i’r Magic Dragon, a fydd yn cynnal noson meic agored arbennig, neu Saith Seren, lle bydd Cowbois Rhos Botwnnog a Daf Williams a’r Band yn perfformio’n fyw!

Dydd Sadwrn Chwefror 14eg

Dydd Miwisg Cymru / Gwyl Dyfodol hefo FOCUS Wales

Dyma’r un MAWR! Bydd digwyddiad diwrnod cyfan yn Tŷ Pawb (10am-9pm) – i gyd AM DDIM i’w mynychu – dim angen archebu lle!

11am-2pm
Gweithgareddau Teuluol AM DDIM

11am-2pm
Pop-yp Amgueddfa’r Ddwy Hanner
Dewch i ddweud helo wrth dîm yr amgueddfa! Siaradwch am amgueddfa newydd Wrecsam, lliwio i blant, a chyfleoedd i drin gwrthrychau o’u casgliadau!

11.30am-2pm
Cerddoriaeth Fyw yn yr ardal fwyd
Sara Erddig / Côr Vivace / Lleisiau Clywedog / Rhi Jorj a’r Band

2pm-6pm
Y Chwe Gwlad yn Fyw
Byddwn yn dangos Iwerddon v Yr Eidal ac yna’r Alban v Lloegr yn Oriel Bach (wrth ymyl y brif dderbynfa)

4pm-9pm
Gwyl Dyfodol gyda FOCUS Wales
Yn cynnwys:
MWSOG / SEAZOO / MALI HAF / Y BATTENBERG TEULU /
OSGLED / ELIN A CARYS / ANDY HICKIE / CÔR DAW

Dathliad o iaith a diwylliant Cymru y gall pawb ei fwynhau!

Dywedodd Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sydd â chyfrifoldeb am Dŷ Pawb, y Cynghorydd Hugh Jones: “Mae Tŷ Pawb wedi bod yn falch o arddangos celfyddydau a cherddoriaeth Cymru ers y diwrnod cyntaf ac rydym wrth ein bodd yn parhau â’n partneriaeth hirhoedlog â FOCUS Wales, sydd wedi ennill sawl gwobr, i ddathlu Dydd Miwsig Cymru eleni.

“Mae cynnal yr eisteddfod genedlaethol wych yma’r haf diwethaf wedi rhoi syniadau, egni a hyder newydd i Wrecsam i hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymru. O ganlyniad, digwyddiad mis Chwefror hwn fydd y digwyddiad mwyaf y mae Dydd Miwsig Cymru Wrecsam erioed wedi’i gynnal ac mae’n rhan o waddol ehangach yr ydym yn ei greu, gan adeiladu ar lwyddiant yr eisteddfod a’r cynulleidfaoedd a’r partneriaethau newydd yr ydym wedi gallu eu datblygu.

“Mae hwn yn debygol o fod yn dri diwrnod hynod bleserus i bob oed. P’un a ydych chi’n gefnogwr cerddoriaeth Cymru gydol oes, neu os ydych chi eisiau dod i fwynhau’r awyrgylch a’r dathliadau, byddwn yn annog pawb i ddod a manteisio i’r eithaf ar y digwyddiadau rhad ac am ddim hyn.”

Gweler wefan Tŷ Pawb am mwy

Rhannu
Erthygl flaenorol 'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau ‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau
Erthygl nesaf WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029 WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Efallai mai gweithio i ni yw eich cam nesaf! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Chwefror 20, 2026
Dementia
Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!
Digwyddiadau Chwefror 20, 2026
Voices make change
11-25 oed? Lleisiau’n Creu Newid
Pobl a lle Chwefror 19, 2026
Road
Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!
Pobl a lle Chwefror 16, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dementia
Digwyddiadau

Gweithdai cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia – cadwch eich lle!

Chwefror 20, 2026
Image from St David's Day Parade of group of children holding a Welsh flag
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda rhaglen lawn yng nghanol y ddinas

Chwefror 10, 2026
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
DigwyddiadauPobl a lleYn cael sylw arbennig

WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029

Chwefror 5, 2026
Women's Health Event 2026
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad Iechyd Menywod 2026

Chwefror 3, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English