Bydd marchnadoedd, lleoliad celfyddydau a diwylliannol arobryn Wrecsam, Tŷ Pawb, yn cynnal Parth Cefnogwyr Teuluol Ewro 2025 i Ferched ddydd Sadwrn yma!
Dewch i ddathlu menywod Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf erioed mewn twrnamaint rhyngwladol gyda diwrnod o weithgareddau pêl-droed sy’n addas i deuluoedd a cherddoriaeth fyw ac yna’r gêm fawr, Cymru v Yr Iseldiroedd YN FYW ar y sgrin fawr!
Eich holl anghenion diwrnod gêm wedi’u trefnu!
Bydd neuadd y farchnad, yr ardal fwyd a’r bar ar agor yn llwyr drwy’r dydd!
Dim het bwced gennych chi eto? Dim problem! Mae gan Siop Siwan yn Tŷ Pawb yr holl gasgliadau Cymru sydd eu hangen arnoch chi! Gan gynnwys hetiau i’r teulu cyfan a rhai llyfrau hyfryd ar thema pêl-droed Cymru i blant (yn y Gymraeg a’r Saesneg).
Bydd arddangosfa dros dro arbennig hefyd yn dangos hanes darluniadol pêl-droed menywod Cymru, a grëwyd gan Tŷ Pawb gydag Amgueddfa Bêl-droed Cymru – stori wirioneddol ysbrydoledig, sy’n werth edrych arni cyn i’r gêm fawr ddechrau!



Rhaglen lawn dydd Sadwrn
10am-12pm
Clwb Celf i’r Teulu
Dyluniwch eich baner bêl-droed eich hun!
(Talwch yr hyn y gallwch)
12pm-2pm
Cerddoriaeth fyw yn yr Ardal Fwyd
2pm-4pm
Gweithgareddau Pêl-droed/Eisteddfod i’r Teulu gyda Menter Iaith
Creu baneri a bwndeli i addurno Wrecsam cyn yr Eisteddfod!
5pm
Cymru v Yr Iseldiroedd YN FYW ar y sgrin fawr.
Bydd Tŷ Pawb hefyd yn dangos gemau eraill Cymru yn Ewro 2025 YN FYW ar y sgrin fawr:
Dydd Mercher 9fed Gorffennaf
8pm
Ffrainc v Cymru
Dydd Sul 16eg
8pm
Lloegr v Cymru