Dydd Iau, 27 Ionawr yw Diwrnod Cofio’r Holocost. Ar y diwrnod hwn, mae gofyn i ni gymryd ennyd i dalu teyrnged i’r rhai a gafodd eu herlid a’u lladd yn ystod yr Holocost ac achosion eraill o hil-laddiad ar draws y byd.
Bob blwyddyn, mae thema i Ddiwrnod Cofio’r Holocost yn y DU. ‘Un Diwrnod’ yw hwnnw eleni.
Am 8pm, byddwch yn barod i Oleuo’r Tywyllwch gyda ni. Bydd cartrefi ar draws y DU yn goleuo canhwyllau ac yn eu gosod yn eu ffenestri’n ddiogel i gofio’r rhai a gafodd eu lladd am bwy oeddent ac i sefyll yn erbyn rhagfarn a chasindeb heddiw. Byddwn hefyd yn goleuo Neuadd y Dref i nodi’r diwrnod.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd seremoni’r DU ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost 2022 yn cael ei ffrydio ar-lein o 7pm tan 8pm (gallwch gofrestru i wylio’r seremoni ar-lein) a bydd coffâd Cymru ar gael o 11am ddydd Iau, 27 Ionawr drwy fynd i sianel YouTube Cyngor Caerdydd.
Bydd AVOW hefyd yn cynnal nifer o weithdai ar-lein celf weledol ac ysgrifennu creadigol a fydd yn rhoi amser i chi oedi a meddwl, gan fod yn greadigol hefyd.
Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n bwysig nad ydym ni byth yn anghofio erchyllterau’r Holocost, pan laddwyd chwe miliwn o bobl.
“Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, gallwn ddangos ein bod yn coffáu’r trychinebau yma adref. Bydd pobl yn cynnau canhwyllau ac yn eu dangos yn eu ffenestri ar draws y DU am 8pm ar 27 Ionawr, ac rydym ni’n annog trigolion Wrecsam i wneud hynny hefyd.
“Rydym ni’n falch o fod yn dref amrywiol iawn, a byddwn bob amser yn herio pob ffurf ar anghydraddoldeb ac annynoldeb.”
Dywedodd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae thema ‘Un Diwrnod’ eleni’n rhoi cyfle i ni ystyried yr Holocost mewn sawl ffordd sy’n ysgogi’r meddwl. Gallwn feddwl am un diwrnod yn y dyfodol pan na fyddai hil-laddiad, neu ystyried dioddefwyr hil-laddiad a’u teuluoedd pan newidiodd popeth ar yr un diwrnod hwnnw, neu hyd yn oed sut mae’r rhai sy’n dioddef yn goroesi drwy fyw un diwrnod ar y tro.
“Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan a Goleuo’r Tywyllwch eleni; drwy ein hatgoffa ni’n hunain o ddigwyddiadau’r gorffennol mae modd i ni weithio i sicrhau nad yw’r un peth byth yn digwydd eto.”
#DiwrnodCofiorHolocost #GoleuorTywyllwch
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL