Pan mae’n dod i beiriannau sy’n gwneud caniau diod dyma gwmni sy’n cael ei gydnabod yn fyd-eang fel yr “Enw o Ddewis” ac mae wedi’i leoli yma yn Wrecsam.
Mae Unimaq sydd ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yn cynnig cwsmeriaid gyda dewis cyffrous o offer cynhyrchu caniau sy’n ddibynadwy ac o safon sydd nid yn unig yn ehangu’n barhaus ond sydd hefyd yn gallu cael ei ddylunio a’i adeiladu i gwrdd ag anghenion prosesu unigryw pob cwsmer unigol.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams a ymwelodd â’r cwmni yn ddiweddar, “Mae Unimaq wedi’i hen sefydlu ac yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i’w cadw nhw fel arweinwyr yn y farchnad heddiw. Dwi’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn 2023.”
Meddai’r perchennog, Berty de Jong, “Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gwmni sy’n rhoi cynnig ar wneud unrhyw beth sy’n cwrdd â gofynion a cheisiadau ein cwsmeriaid. Mae ein staff yn gweithio’n galed iawn i gyflawni archebion ar amser gan sicrhau eu bod yn darparu cynnyrch o safon sydd wedi ein gwneud y cwmni gorau o ran cynhyrchu caniau a’u gorffeniad.”
Felly y tro nesaf y byddwch yn prynu can o ddiod bigog cofiwch ei fod wedi cael ei wneud gan offer wedi’i gynhyrchu yn Wrecsam!
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI