Os ydych yn bwriadu ymweld â chanol dinas Wrecsam yna Croeso a Welcome!
Ein Apiau Wrecsam
Gall ymwelwyr a busnesau yn Wrecsam gymryd mantais bellach o’n dau ap i ymwelwyr, a gellir lawrlwytho’r ddau o siopau Apple ac Android. Mae ap VZTA yn cynnig cyfeiriadur llawn ar gyfer Canol y Ddinas, tra bo ap Dyma Wrecsam yn dangos y llefydd gorau i fwyta, aros ac ymweld ar draws y Sir gyfan.
Dolen i lawrlwytho VZTA; VZTA ar Siopau Ap (apple.com)
A dyma’r ddolen i lawrlwytho ap Wrecsam https://apps.apple.com/gb/app/this-is-wrexham/id6450318901
Dyma ganllaw defnyddiol i’ch helpu i gynllunio a mwynhau eich ymweliad:
Cludiant:
Lleoliad yr Orsaf Reilffordd – LL11 2AA

Lleoliad yr Orsaf Fysiau – LL11 1LF
I gael gwybodaeth am docynnau a theithio ewch i Teithio mewn Bws yn Wrecsam | Tocynnau ac Amseroedd | Arriva Bus Bus

Tacsi – Mae ein prif safle tacsis sy’n cael eu defnyddio gan Gerbydau Hacni wedi’i leoli ar Stryt y Brenin, gyferbyn â’r orsaf fysiau (LL11 1LF) Mae rhestr o gwmnïau tacsis canol y ddinas ar gael ar waelod y ddogfen hon

Meysydd parcio – Dod o hyd i faes parcio
Os na allwch lawrlwytho Apiau Wrecsam, dyma ychydig o syniadau am lefydd i fwyta a’u gweld tra byddwch yma
Stryt y Banc – LL11 1AH
Stryd hanesyddol ryfeddol sy’n llawn busnesau annibynnol, gallwch ymweld â Marrubis (y caffi hynaf yn Wrecsam), neu gael coffi neu fyrbryd yma!

Stryt Fawr LL13 8LP
Mae canolbwynt bywyd nos yn Wrecsam ar y stryd fawr ac mae’n cynnwys nifer o fwytai a bariau yn ogystal â nifer o leoliadau bwydydd cyflym. Mae nifer ohonynt ar agor yn ystod y dydd, felly beth am fynd yno?

Tŷ Pawb LL13 8BB
Yma gallwch ddod o hyd i gwrt bwydydd cyfeillgar a gwych lle mae amrywiaeth o ddanteithion blasus ar gael megis dewisiadau figan, pastai gartref, cyri, pwdinau, adenydd cyw iâr a llawer mwy gan ein masnachwyr bwyd annibynnol.
Hefyd mae’n gweithredu fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau celf, diwylliannol a chymunedol, yn ogystal â marchnad ac oriel gelf – fe gyrhaeddodd y rhestr fer hefyd ar gyfer gwobr fawreddog ‘Amgueddfa’r Flwyddyn’.

Dim ond awgrymiadau yw’r rhain o leoedd i fwyta. Wrth gerdded o amgylch Canol y Ddinas fe fyddwch yn debygol o ddod ar draws ystod o lefydd gwych i fwyta gan gynnwys bwyd Pwylaidd, Portiwgeaidd, Indiaidd a Chymreig.
Beth i’w weld yn Wrecsam
Eglwys San Silyn – LL13 8LS
Mae’r tŵr yn San Silyn yn un o 7 Rhyfeddod Cymru. Adnabyddir yr eglwys fel un o enghreifftiau gorau o bensaernïaeth eglwysig yng Nghymru.
Canolfan Groeso Wrecsam – Stryt Caer, ar agor rhwng 9.30am a 4.30pm dydd Llun i ddydd Sadwrn
Siop wybodaeth un alwad i ymwelwyr Wrecsam. Gallant ddarparu gwybodaeth am leoedd i ymweld â nhw, pethau i’w gwneud, lleoedd i fwyta, ac mae ganddynt ddewis da o grefftau, rhoddion a nwyddau Wrecsam.

Bragdy Wrexham Lager – LL13 8DB
Yn cuddio yng Nghilgant San Siôr ym mragdy Wrexham Lager y mae rhai o’r allforion mwyaf enwog Wrecsam yn cael eu gwneud! Gallwch ymweld â siop y bragdy i weld y nwyddau a chyfle i flasu cwrw ffres sydd newydd ei fragu!

Xplore! Y Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth – LL13 8AE
Cartref gwyddoniaeth yng Ngogledd Cymru Mae’n llawn dop o bethau gwyddonol, pethau i’w harchwilio a llawer o hwyl. Perffaith i bob oedran. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys taith i Xplore! yn ystod eich ymweliad nesaf i Wrecsam.
Mae siop a chaffi Xplore! ar agor 7 diwrnod yr wythnos 9.30 – 16.30.
Mae’r Ganolfan Wyddoniaeth ar agor pob penwythnos, gŵyl y banc ac yn ystod gwyliau ysgolion Wrecsam 9:30-16:30.

Cymraeg Defnyddiol
Yn ystod eich ymweliad â Wrecsam, byddwch yn debygol o glywed nifer o ieithoedd gwahanol. Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru. Mae’r mwyafrif o bobl yn Wrecsam yn deall Saesneg, ond rydym yn hoffi annog pawb i ddysgu a siarad ychydig o Gymraeg. Dyma ychydig o eiriau/ ymadroddion Cymraeg:
“Bore da” – “Good Morning”
“Diolch” –“Thank you”
“Gwych” – “Excellent”
“Ga’i ddau gwrw” – “Can I have 2 beers”
“Dwi’n Caru Wrecsam” – “I love Wrexham”

Rhestr o Gwmnïau Tacsis Wrecsam
Apollo
18 Stryt Siarl, Wrecsam – Ffôn: 01978 366100
Atax
14 Stryt yr Abad, Wrecsam – Ffôn: 01978 262380
Cresta Cabs – 01978 353500
16 Cilgant San Siôr, Wrecsam
Gold Star
2 Glan yr Afon, Wrecsam – 01978 353333
J.J. Cars
5A Stryt yr Abad, Wrecsam – 01978 351234
Regal Taxis
15a Stryt y Brenin, Wrecsam- 01978 362888
Town Cars
Gorsaf Reilffordd Wrecsam Gyffredinol01978 313131
Wrexham / Prestige
Yale House, 46 Glan yr Afon, Wrecsam – 01978 357777
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen – Taith Prydain Merched – gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch