Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymweld â chanol dinas Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ymweld â chanol dinas Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Pobl a lleBusnes ac addysg

Ymweld â chanol dinas Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…

Diweddarwyd diwethaf: 2024/05/31 at 9:25 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
Tourism
RHANNU

Os ydych yn bwriadu ymweld â chanol dinas Wrecsam yna Croeso a Welcome!

Cynnwys
Ein Apiau WrecsamOs na allwch lawrlwytho Apiau Wrecsam, dyma ychydig o syniadau am lefydd i fwyta a’u gweld tra byddwch ymaBeth i’w weld yn WrecsamRhestr o Gwmnïau Tacsis Wrecsam

Ein Apiau Wrecsam

Gall ymwelwyr a busnesau yn Wrecsam gymryd mantais bellach o’n dau ap i ymwelwyr, a gellir lawrlwytho’r ddau o siopau Apple ac Android.  Mae ap VZTA yn cynnig cyfeiriadur llawn ar gyfer Canol y Ddinas, tra bo ap Dyma Wrecsam yn dangos y llefydd gorau i fwyta, aros ac ymweld ar draws y Sir gyfan.

Dolen i lawrlwytho VZTA; VZTA ar Siopau Ap (apple.com)

A dyma’r ddolen i lawrlwytho ap Wrecsam https://apps.apple.com/gb/app/this-is-wrexham/id6450318901

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Dyma ganllaw defnyddiol i’ch helpu i gynllunio a mwynhau eich ymweliad:

Cludiant:

Lleoliad yr Orsaf Reilffordd –  LL11 2AA 

Ymweld â chanol dinas Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…

Lleoliad yr Orsaf Fysiau – LL11 1LF

I gael gwybodaeth am docynnau a theithio ewch i  Teithio mewn Bws yn Wrecsam | Tocynnau ac Amseroedd | Arriva Bus Bus

Wrexham bus station

Tacsi – Mae ein prif safle tacsis sy’n cael eu defnyddio gan Gerbydau Hacni wedi’i leoli ar Stryt y Brenin, gyferbyn â’r orsaf fysiau (LL11 1LF) Mae rhestr o gwmnïau tacsis canol y ddinas ar gael ar waelod y ddogfen hon

Wrexham Taxi Rank

Meysydd parcio – Dod o hyd i faes parcio

Os na allwch lawrlwytho Apiau Wrecsam, dyma ychydig o syniadau am lefydd i fwyta a’u gweld tra byddwch yma

Stryt y Banc – LL11 1AH

Stryd hanesyddol ryfeddol sy’n llawn busnesau annibynnol, gallwch ymweld â Marrubis (y caffi hynaf yn Wrecsam), neu gael coffi neu fyrbryd yma!

Wrexham Bank STreet

Stryt Fawr LL13 8LP

Mae canolbwynt bywyd nos yn Wrecsam ar y stryd fawr ac mae’n cynnwys nifer o fwytai a bariau yn ogystal â nifer o leoliadau bwydydd cyflym. Mae nifer ohonynt ar agor yn ystod y dydd, felly beth am fynd yno?

Wrexham High Street

Tŷ Pawb LL13 8BB

Yma gallwch ddod o hyd i gwrt bwydydd cyfeillgar a gwych lle mae amrywiaeth o ddanteithion blasus ar gael megis dewisiadau figan, pastai gartref, cyri, pwdinau, adenydd cyw iâr a llawer mwy gan ein masnachwyr bwyd annibynnol.

Hefyd mae’n gweithredu fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau celf, diwylliannol a chymunedol, yn ogystal â marchnad ac oriel gelf – fe gyrhaeddodd y rhestr fer hefyd ar gyfer gwobr fawreddog ‘Amgueddfa’r Flwyddyn’. 

Wrexham Ty Pawb

Dim ond awgrymiadau yw’r rhain o leoedd i fwyta. Wrth gerdded o amgylch Canol y Ddinas fe fyddwch yn debygol o ddod ar draws ystod o lefydd gwych i fwyta gan gynnwys bwyd Pwylaidd, Portiwgeaidd, Indiaidd a Chymreig.

Beth i’w weld yn Wrecsam

Eglwys San Silyn – LL13 8LS

Mae’r tŵr yn San Silyn yn un o 7 Rhyfeddod Cymru. Adnabyddir yr eglwys fel un o enghreifftiau gorau o bensaernïaeth eglwysig yng Nghymru.

Canolfan Groeso Wrecsam – Stryt Caer, ar agor rhwng 9.30am a 4.30pm dydd Llun i ddydd Sadwrn

Siop wybodaeth un alwad i ymwelwyr Wrecsam. Gallant ddarparu gwybodaeth am leoedd i ymweld â nhw, pethau i’w gwneud, lleoedd i fwyta, ac mae ganddynt ddewis da o grefftau, rhoddion a nwyddau Wrecsam.

Wrexham Visitor Information Centre

Bragdy Wrexham Lager – LL13 8DB

Yn cuddio yng Nghilgant San Siôr ym mragdy Wrexham Lager  y mae rhai o’r allforion mwyaf enwog Wrecsam yn cael eu gwneud! Gallwch ymweld â siop y bragdy i weld y nwyddau a chyfle i flasu cwrw ffres sydd newydd ei fragu!

Wrexham Lager

Xplore! Y Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth – LL13 8AE

Cartref gwyddoniaeth yng Ngogledd Cymru Mae’n llawn dop o bethau gwyddonol, pethau i’w harchwilio a llawer o hwyl. Perffaith i bob oedran.   Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys taith i Xplore! yn ystod eich ymweliad nesaf i Wrecsam.

Mae siop a chaffi Xplore! ar agor 7 diwrnod yr wythnos 9.30 – 16.30.

Mae’r Ganolfan Wyddoniaeth ar agor pob penwythnos, gŵyl y banc ac yn ystod gwyliau ysgolion Wrecsam 9:30-16:30.

Wrexham Xplore

Cymraeg Defnyddiol

Yn ystod eich ymweliad â Wrecsam, byddwch yn debygol o glywed nifer o ieithoedd gwahanol. Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru. Mae’r mwyafrif o bobl yn Wrecsam yn deall Saesneg, ond rydym yn hoffi annog pawb i ddysgu a siarad ychydig o Gymraeg. Dyma ychydig o eiriau/ ymadroddion Cymraeg:

“Bore da” – “Good Morning”

“Diolch” –“Thank you”

“Gwych” – “Excellent”

“Ga’i ddau gwrw” – “Can I have 2 beers”

“Dwi’n Caru Wrecsam” – “I love Wrexham”

Wrexham Croeso

Rhestr o Gwmnïau Tacsis Wrecsam

Apollo

18 Stryt Siarl, Wrecsam – Ffôn: 01978 366100

Atax

14 Stryt yr Abad, Wrecsam – Ffôn: 01978 262380

Cresta Cabs – 01978 353500

16 Cilgant San Siôr, Wrecsam

Gold Star

2 Glan yr Afon, Wrecsam – 01978 353333

J.J. Cars

5A Stryt yr Abad, Wrecsam  – 01978 351234

Regal Taxis 

15a Stryt y Brenin, Wrecsam- 01978 362888

Town Cars

Gorsaf Reilffordd Wrecsam Gyffredinol01978 313131

Wrexham / Prestige

Yale House, 46 Glan yr Afon, Wrecsam – 01978 357777

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen – Taith Prydain Merched – gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Tracy's Cafe Mae Tracey’s Cafe wedi symud … Ond ddim yn rhy bell!
Erthygl nesaf Dim ond wythnos sydd i fynd nes y bydd Lloyds Bank Taith Prydain Merched 2024 yn dod i Wrecsam Dim ond wythnos sydd i fynd nes y bydd Lloyds Bank Taith Prydain Merched 2024 yn dod i Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg

Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith

Gorffennaf 4, 2025
trees
Pobl a lle

Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned

Gorffennaf 4, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English