Rydym mor gyffrous i gyhoeddi ar ôl ennill Coeden y Flwyddyn y DU yn 2023, bod Castanwydden Bêr Wrecsam wedi mynd drwy i gystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn!
Mae’r Gastanwydden Bêr Wrecsam yn sefyll yng nghanol Parc Acton, a chafodd gydnabyddiaeth haeddiannol ym mis Medi 2023, pan gystadlodd yn erbyn 12 arall drwy gydol y DU i ddod yn fuddugol yng Nghoeden y Flwyddyn yn y DU. Felly mae’r goeden yn mynd yn syth drwodd i’r camau Ewropeaidd lle bydd yn cystadlu gyda choed ar draws Ewrop i hawlio’r teitl.
Mae’n amlwg pam fod Castanwydden Bêr Wrecsam wedi mynd drwodd i Ewrop; mae’n 24 medr o uchder ac mae ei gylchedd yn 6.1m, amcangyfrifir bod yr hen goeden yn tua 480 oed sydd yn golygu y dechreuodd dyfu yn 1534, yn ystod cyfnod Brenin Henry VIII. Mae wedi gwrthsefyll nifer fawr o heriau yn ystod ei hanner mileniwm ar y ddaear, o ddinistrio’r parc er mwyn cael coed tân yn y 1940au yn dilyn y rhyfel, i ddwsinau o stormydd angheuol, gan gynnwys yn 2021 pan gollodd nifer o’r coed amgylchynol eu canghennau neu eu chwythu i’r llawr yn llwyr.
I ddathlu cyrraedd y gystadleuaeth wych hon, byddwn yn cynnal digwyddiadau ac ymweliadau addysgol o amgylch y Gastanwydden Bêr Wrecsam yn ystod mis Chwefror.
Rydym eisiau dathlu Parc Acton a’r holl ymwelwyr sydd wedi gweld y goeden dros y blynyddoedd, hyd yn oed ein ffrindiau pedair coes! Cynhelir sioe gŵn hwyliog dydd Sul, 11 Chwefror 22.30 – 4pm o amgylch y goeden, felly rydym yn gwahodd cŵn a’u perchnogion i gymryd rhan mewn categorïau megis cynffon fwyaf siglog a chŵn fwyaf sgryfflyd, Bydd11 categori i gyd i gymryd rhan, a bydd stondinau a gweithgareddau eraill hefyd i ddifyrru’r teulu drwy’r dydd, megis sioeau ystwythder, danteithion i’r cŵn, celf a chrefft a lluniaeth.
Cynhelir Digwyddiad Sant Ffolant Caru eich Coed dydd Mercher, Chwefror 14 1pm-3pm lle gall bobl fwynhau taith gerdded o amgylch y parc yn chwilio am nodweddion Sant Ffolant cyn dod yn ôl i’r Gastanwydden Bêr Wrecsam i gasglu gwobr Sant Ffolant a chymryd rhan mewn crefft thema Sant Ffolant. Dewch a rhannwch eich cariad o goed y dydd Sant Ffolant hwn a dewch â’r teulu cyfan i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn ystod yr hanner tymor.
Mae’r bleidlais ar gyfer y goeden yn dechrau dydd Iau, 1 Chwefror ac yn dod i ben dydd Mercher 21 Chwefror, ac mae’r cyfnod pleidleisio yn fyr felly bydd pob pleidlais yn cyfri. Pleidleisiwch ar gyfer y goeden yma.
Castanwydden Bêt Wrecsam yn “goeden anhygoel”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd “Mae hon yn goeden anhygoel ac yn ffefryn i nifer o genedlaethau o bobl yn yr ardal.
“Cofiwch fwrw pleidlais a lledaenu’r neges i sicrhau ei fod yn cael cydnabyddiaeth mae’n ei haeddu ar draws Ewrop.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch