Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bydd seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Bydd seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024
Pobl a lle

Bydd seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 31, 2024 2:44 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Bydd seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024
RHANNU

Erthygl gwadd – Eisteddfod

Yn draddodiadol, mae’r Orsedd yn cyhoeddi’r bwriad Eisteddfod i ymweld ag ardal o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn y Brifwyl.  Yn ogystal, dyma pryd y cyhoeddir y Rhestr Testunau, sef y rhestr o gystadlaethau a gwybodaeth i unrhyw un sy’n dymuno mynd ati i gystadlu’r flwyddyn nesaf. 

Yr Archdderwydd, sef pennaeth yr Orsedd sy’n arwain y seremoni draddodiadol hon, gyda chadeirydd y pwyllgor gwaith lleol yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd.  Unwaith y mae’r copi wedi’i rannu, mae’r wybodaeth yn gyhoeddus a’r gyfrol yn mynd ar werth mewn siopau ar hyd a lled Cymru.

Mae criw o blant y dalgylch yn cymryd rhan yn y seremoni hefyd, gan ddawnsio i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod.  Mae’r Ddawns yn rhan liwgar o holl seremonïau’r Orsedd ac wedi’i seilio ar batrwm casglu blodau o’r caeau.  

Yn unol â thraddodiad, cynhelir gorymdaith ddechrau’r prynhawn, gan gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a chymdeithasau lleol ynghyd â Gorsedd Cymru, i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal, a chyflwyno’r ardal i’r Eisteddfod. 

Mae’r Orsedd yn gyfrifol am y seremonïau yn ystod wythnos yr Eisteddfod, sydd yn rhan o’r ŵyl ehangach sy’n ddathliad lliwgar, croesawgar, cyfeillgar a chynhwysol o’n diwylliant a’n hiaith yma yng Nghymru.

Mae croeso mawr i grwpiau mawr a bach i ymuno gyda ni – roedd dros 600 o bobl yn gorymdeithio yng Ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd!

Mae’r Eisteddfod yn ŵyl liwgar a chyfeillgar, ac rydyn ni am i’n gorymdaith adlewyrchu hynny, ac felly rydyn ni’n annog grwpiau i baratoi baneri i’w cario wrth gerdded.

Cysylltwch os fyddech chi’n hoffi i un o’r tîm alw draw i sgwrsio gyda’ch grwp, ysgol neu gymdeithas am y Cyhoeddi neu’r Eisteddfod.  Ebostiwch ni am ragor o fanylion, gwyb@eisteddfod.cymru.

Cofrestrwch i gymryd rhan yn yr orymdaith yma.

Rhannu
Erthygl flaenorol Time to talk - image shows a man and woman sitting down at a table having a conversation. Gadewch i ni wneud amser i siarad am iechyd meddwl
Erthygl nesaf Tree of the Year Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English