Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn.
Y cyngorPobl a lle

Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn.

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 1, 2024 9:21 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Tree of the Year
RHANNU

Rydym mor gyffrous i gyhoeddi ar ôl ennill Coeden y Flwyddyn y DU yn 2023, bod Castanwydden Bêr Wrecsam wedi mynd drwy i gystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn!

Mae’r Gastanwydden Bêr Wrecsam yn sefyll yng nghanol Parc Acton, a chafodd gydnabyddiaeth haeddiannol ym mis Medi 2023, pan gystadlodd yn erbyn 12 arall drwy gydol y DU i ddod yn fuddugol yng Nghoeden y Flwyddyn yn y DU. Felly mae’r goeden yn mynd yn syth drwodd i’r camau Ewropeaidd lle bydd yn cystadlu gyda choed ar draws Ewrop i hawlio’r teitl.

Mae’n amlwg pam fod Castanwydden Bêr Wrecsam wedi mynd drwodd i Ewrop; mae’n 24 medr o uchder ac mae ei gylchedd yn 6.1m, amcangyfrifir bod yr hen goeden yn tua 480 oed sydd yn golygu y dechreuodd dyfu yn 1534, yn ystod cyfnod Brenin Henry VIII. Mae wedi gwrthsefyll nifer fawr o heriau yn ystod ei hanner mileniwm ar y ddaear, o ddinistrio’r parc er mwyn cael coed tân yn y 1940au yn dilyn y rhyfel, i ddwsinau o stormydd angheuol, gan gynnwys yn 2021 pan gollodd nifer o’r coed amgylchynol eu canghennau neu eu chwythu i’r llawr yn llwyr. 

I ddathlu cyrraedd y gystadleuaeth wych hon, byddwn yn cynnal digwyddiadau ac ymweliadau addysgol o amgylch y Gastanwydden Bêr Wrecsam yn ystod mis Chwefror.

Rydym eisiau dathlu Parc Acton a’r holl ymwelwyr sydd wedi gweld y goeden dros y blynyddoedd, hyd yn oed ein ffrindiau pedair coes! Cynhelir sioe gŵn hwyliog dydd Sul, 11 Chwefror 22.30 – 4pm o amgylch y goeden, felly rydym yn gwahodd cŵn a’u perchnogion i gymryd rhan mewn categorïau megis cynffon fwyaf siglog a chŵn fwyaf sgryfflyd, Bydd11 categori i gyd i gymryd rhan, a bydd stondinau a gweithgareddau eraill hefyd i ddifyrru’r teulu drwy’r dydd, megis sioeau ystwythder, danteithion i’r cŵn, celf a chrefft a lluniaeth.

Cynhelir Digwyddiad Sant Ffolant Caru eich Coed dydd Mercher, Chwefror 14 1pm-3pm lle gall bobl fwynhau taith gerdded o amgylch y parc yn chwilio am nodweddion Sant Ffolant cyn dod yn ôl i’r Gastanwydden Bêr Wrecsam i gasglu gwobr Sant Ffolant a chymryd rhan mewn crefft thema Sant Ffolant. Dewch a rhannwch eich cariad o goed y dydd Sant Ffolant hwn a dewch â’r teulu cyfan i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn ystod yr hanner tymor.

Mae’r bleidlais ar gyfer y goeden yn dechrau dydd Iau, 1 Chwefror ac yn dod i ben dydd Mercher 21 Chwefror, ac mae’r cyfnod pleidleisio yn fyr felly bydd pob pleidlais yn cyfri. Pleidleisiwch ar gyfer y goeden yma.

Castanwydden Bêt Wrecsam yn “goeden anhygoel”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd “Mae hon yn goeden anhygoel ac yn ffefryn i nifer o genedlaethau o bobl yn yr ardal.

“Cofiwch fwrw pleidlais a lledaenu’r neges i sicrhau ei fod yn cael cydnabyddiaeth mae’n ei haeddu ar draws Ewrop.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Bydd seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024 Bydd seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024
Erthygl nesaf ty pawb Tŷ Pawb – Gweithgareddau i Deuluoedd dros Hanner Tymor mis Chwefror

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English