Rydym yn cynnig hyfforddiant am ddim ar gyfer pladuro traddodiadol a thechnegau byrnu â llaw ar y ddôl y tu allan i Gae Chwarae Antur Dyffryn Gwenfro ddydd Iau, 13 Gorffennaf rhwng 10am a 2pm.
Mae yna nifer o fanteision yn ymwneud â’r ffurf hwn o reoli glaswelltir. Mae pladuro wedi bodoli ers cannoedd o flynyddoedd ac mae dal i fod yn un o’r dulliau mwyaf effeithlon o dorri gwair. Nid yn unig mae’n hynod o dawel ac yn eco-gyfeillgar; mae’n defnyddio grym dynol yn unig, sy’n ei wneud yn ymarfer gwych hefyd!
Mae angen cynnal dôl o flodau gwyllt yn flynyddol er mwyn galluogi i’r rhywogaethau mwyaf dymunol i ffynnu a lleihau egni’r rhywogaethau fwy cryf, felly bydd torri’r rhain rŵan yn helpu hynny. Mae torri’r blodau gwyllt yr adeg yma o’r flwyddyn yn helpu i gynnal cymysgedd amrywiol o flodau a gwair ac mae’n helpu iddynt ddychwelyd y flwyddyn nesaf.
Bydd lluniaeth ar gael, ond cofiwch ddod â phecyn bwyd efo chi hefyd. Cafodd y ddôl ei chreu yn ystod y Prosiect Seilwaith Gwyrdd gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac mae wedi cael ei phladuro byth ers hynny, gan ei wneud yn lle perffaith ar gyfer diwrnod hyfforddi. Rydym wedi cael dyddiau pladuro ar y ddôl y tu allan i Gae Chwarae Antur Dyffryn Gwenfro am y 3 blynedd ddiwethaf bellach a hoffem ymestyn y dechneg hon i fwy o ardaloedd ar draws Wrecsam gan greu tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n gallu cefnogi cymunedau ledled y sir.
Mae’r traddodiad o reoli dolydd gyda phladur yn mynd nôl i ddyddiau pan fyddai ffermydd a chymunedau yn helpu ac yn cefnogi ei gilydd gyda gwaith llaw yn y caeau. Mae’r mannau agored o amgylch Wrecsam yn ardaloedd gwych i bobl fwynhau ac i fywyd gwyllt ffynnu. Hoffai Cyngor Wrecsam annog mwy o bobl i gyfrannu at reoli eu mannau gwyrdd i ddatblygu cysylltiad gyda’r tir yn ogystal â chefnogi cymunedau i ddysgu mwy am gadwraeth natur. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Jacinta.challinor@wrexham