Blwyddyn i heddiw cafodd y bydd sioc enfawr wrth i luoedd Rwsia ymosod ar Wcráin yn dilyn wythnosau o ddamcaniaethu.
Mae llawer o drigolion Wcrain wedi marw ac mae hyd yn oed mwy wedi cael eu dadleoli neu wedi ffoi fel ffoaduriaid ar draws Ewrop. Mae’r rhai sydd wedi aros ar ôl yn parhau i frwydro’n arwrol dros eu gwlad.
Yma yn Wrecsam mae hi wedi bod yn anrhydedd i fod yn noddfa i lawer o’r ffoaduriaid hynny ac rydym ni’n parhau i chwilio am lety (DOLEN) i ragor gael lloches yma.
Rydym wedi ymgysylltu’n rhagweithiol trwy groesawu nifer o Wcreiniaid a’u gwestywyr i sesiynau galw heibio rheolaidd a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth gydag aml asiantaethau, gan gyfeirio gwesteion tuag at gyfleoedd gwaith ac addysg.
“Mae ein cefnogaeth ar gyfer Wcráin yn ddi-derfyn”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae ein cefnogaeth ar gyfer Wcráin yn ddi-derfyn. Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i nifer ond mae gweld cymaint o bobl o Wcráin yma yn galonogol iawn.
“Fe fyddwn ni’n parhau i gynnig yr holl gymorth, cyngor a chefnogaeth y gallwn ni i unrhyw un sy’n ceisio lloches yma.”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol, “Mae pobl yn Wrecsam wedi agor eu breichiau a’u cartrefi unwaith eto i’r rhai sydd wedi ffoi eu gwlad enedigol, yn aml yn gadael eu hanwyliaid ar eu hôl i frwydro.
“Mae’r frwydr yn eu gwlad yn parhau ac rydw i’n gobeithio y bydd heddwch yn ei ôl ac y bydd y gwaith ailadeiladu wedi cychwyn erbyn yr adeg yma’r flwyddyn nesaf.